Medi Harris
Medi Harris | |
---|---|
Ganwyd | 15 Medi 2002 Porthmadog |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | nofiwr |
Chwaraeon |
Nofiwr rhyngwladol Cymreig yw Medi Eira Harris (ganwyd 15 Medi 2002). Ennill medal efydd gan cynrychioli Cymru yng Gemau'r Gymanwlad 2022 Ngemau'r Gymanwlad 2022 yn y ras 100 metr dull cefn merched. [1] [2]
Cafodd Harris ei geni ym Mhorthmadog. Cafodd ei addysg ym Mhrifysgol Abertawe, Enillodd ddwy fedal gan gynnwys y fedal aur yn y digwyddiad 100 metr cefn, ym Mhencampwriaethau Nofio Prydain 2022 . [3] O ganlyniad, cynrychiolodd Brydain Fawr ym Mhencampwriaethau Dŵr y Byd 2022 . [4]
Yn 2022 cafodd ei dewis ar gyfer Gemau'r Gymanwlad 2022 yn Birmingham lle bu'n cystadlu mewn dau ras; cefn 50 metr merched a 100 metr cefn.[1]
Ym Mhencampwriaethau Dŵr Ewropeaidd 2022 yn Rhufain, enillodd fedal arian yn rownd derfynol ras gefn 100 metr merched ac un arall fel aelod o dîm Prydain yn ras gyfnewid dull rhydd 4 × 200 metr y Merched.[5] Yn yr un pencampwriaethau, enillodd fedal aur fel aelod o dîm ras gyfnewid dull rhydd 4 × 100 medr Merched Prydain, ac efydd fel aelod o dîm cyfnewid cymysg 4 × 100 metr.
Cyfeiriadau
- ↑ 1.0 1.1 "Official Commonwealth Games profile". Birmingham Organising Committee Commonwealth Games Ltd. Cyrchwyd 2 August 2022.
- ↑ "Medi Harris" (yn Saesneg). Eurosport. Cyrchwyd 2 Awst 2022.
- ↑ "Team Wales profile". Team Wales. Cyrchwyd 2 August 2022.[dolen marw]
- ↑ "british Swimming profile" (yn Saesneg). British Swimming. Cyrchwyd 2 Awst 2022.
- ↑ "Great Britain win first gold..." Eurosport (yn Saesneg). Cyrchwyd 22 Awst 2022.