Michael G. Wilson
Michael G. Wilson | |
---|---|
Ganwyd | 21 Ionawr 1942 Dinas Efrog Newydd |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | sgriptiwr, cynhyrchydd ffilm, llenor, actor |
Tad | Lewis Wilson |
Plant | David G. Wilson |
Perthnasau | Albert R. Broccoli |
Gwobr/au | OBE, CBE |
Sgriptiwr a chynhyrchydd ffilmiau y gyfres James Bond yw Michael Gregg Wilson OBE (ganwyd 21 Ionawr 1942). Mae'n lysfab i'r cynhyrchydd James Bond diweddar Albert R. Broccoli ac yn hanner-brawd i gyd-gynhyrchydd y James Bond presennol, Barbara Broccoli. Yr actor Lewis Wilson yw ei dad.
Graddiodd Wilson o Goleg Harvey Mudd ym 1963 fel peiriannydd trydanol. Yn ddiweddarach, astudiodd y gyfraith ym Mhrifysgol Stanford. Ar ôl iddo raddio, gweithiodd Wilson i lywodraeth UDA ac yna i gwmni a arbenigai mewn cyfraith ryngwladol yn Washington D.C..
Eginyn erthygl sydd uchod am un o Unol Daleithiau America. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.