Mudiad Adfer
Roedd Mudiad Adfer yn grŵp protest a darddodd allan o Gymdeithas yr Iaith yn yr 1970au. Tynnodd y mudiad ei syniadau o amrywiol ffynonellau, yn eu plith erthyglau gan Owain Owain [1] ac Emyr Llewelyn. Roedd y syniadau a ddatblygwyd gan yr athronydd J. R. Jones yn y 1960au ynghylch "bychanfyd", "troedle" i'r iaith, a "cydymdreiddiad iaith a thir" yn ddylanwad amlwg hefyd, a dyfynnai'r athronydd yn aml o waith y bardd Waldo Williams. Credai'r mudiad mewn gwarchod "Y Fro Gymraeg" – ardal gyda'r mwyafrif o'i thrigolion yn siarad Cymraeg. gyda'r Gymraeg yn ddelfrydol yn unig iaith bywyd cyhoeddus, e.e, ar arwyddion ffyrdd. Trwy greu peuoedd uniaith yn unig y gellid diogelu'r Gymraeg fel iaith cymuned. Cyhoeddai'r mudiad gylchgrawn, Yr Adferwr, ac ymgyrchwyd dros symud cyrff cyhoeddus yn ymwneud â'r diwylliant Cymraeg o Gaerdydd i'r Fro Gymraeg.
Daeth Mudiad Adfer i ben yn ymarferol tua diwedd yr 1980au, ond mae ei syniadau gwaelodol wedi eu mabwysiadu gan gyrff megis Cymuned a Chylch yr Iaith. Gwerthai Cwmni Adfer fuddsoddiadau yn y cwmni a phrynwyd ychydig o dai, eu hadfer a'u rhentu i bobl leol, ond cyfyngedig fu llwyddiant y mentrau hyn.
Ysgrifennodd Owain Owain mewn llythyr yn Y Faner ("Yr Iaith - Arf Gwleidyddol"):
“ | Achubwn y Fro Gymraeg ac fe achubir Cymru. … Fe ellir achub y Fro Gymraeg – yn fuan – drwy ddefnyddio'r iaith fel erfyn gwleidyddol.[2] | ” |
Un o sloganau'r mudiad oedd "Tua'r Gorllewin" a cheisiwyd annog y Cymry Cymraeg i ddychwelyd i gefn gwlad Cymru. Gweler sylwadau Alan Llwyd ar awdl fuddugol T. Llew Jones yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Glyn Ebwy 1958.[3]
Canodd y grŵp gwerin Ac Eraill a Tecwyn Ifan yntau lawer o ganeuon a adleisiai syniadaeth y mudiad, e.e. "Y Dref Wen". Lluniodd Alan Llwyd awdl "Adfer" sy'n adlewyrchu syniadaeth y cyfnod, ac fe'i cyhoeddwyd yn ei gyfrol Gwyfyn y Gaeaf yn 1975. gyda'r llinell glo "Yfory iaith: Adfer yw".
Llyfryddiaeth
Emyr Llywelyn, Adfer a'r Fro Gymraeg (Cyhoeddiadau Modern Cymreig, 1976)
Cyfeiriadau
- ↑ Tafod y Ddraig Rhif 4; Ionawr 1964
- ↑ "Y Fro Gymraeg". Gwefan Owain Owain. Adalwyd ar 17 Awst, 2009.
- ↑ "Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol 1958" BBC
Dolenni allanol
- Gwaith ymchwil PhD ar Adfer
- 'Awn i ail Adfer bro...' (BBC Cymru Fyw, 26 Tachwedd 2015)
- Tarddiad y cysyniad o Fro Gymraeg
- Papurau Mudiad Chwmni Adfer yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru