Mynydd Carmel
Math | cadwyn o fynyddoedd ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Haifa District ![]() |
Gwlad | Israel ![]() |
Uwch y môr | 545 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 32.6725°N 35.02333°E ![]() |
Hyd | 50 cilometr ![]() |
Deunydd | calchfaen ![]() |
Mynyddoedd yng ngogledd-orllewin Israel yw Mynydd Carmel. Mae'n ymestyn o gyffiniau Haifa ger y Môr Canoldir i'r de-ddwyrain hyd at fynyddoedd Samaria, gerllaw Jenin.
Mae arwyddocâd i Fynydd Carmel mewn sawl crefydd: Iddewiaeth, Cristnogaeth, Islam a Bahá'í. Dywedir fod y proffwyd Elias wedi byw ar y mynydd, a gelwir ogof ar y mynydd yn ogof Elias. Ar Fynydd Carmel y mae prif ganolfan y Bahá'í.