Mynyddoedd Wicklow
Math | cadwyn o fynyddoedd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Swydd Wicklow, Swydd Wexford, Swydd Carlow |
Sir | Swydd Dulyn |
Gwlad | Gweriniaeth Iwerddon |
Arwynebedd | 3,000 km² |
Uwch y môr | 925 metr |
Cyfesurynnau | 53.08°N 6.33°W |
Hyd | 66 cilometr |
Cyfnod daearegol | Defonaidd, Cambriaidd |
Deunydd | gwenithfaen, mica, sgist, cwartsit |
Mae Mynyddoedd Wicklow (Gwyddeleg: Sléibhte Chill Mhantáin) yn gadwyn o fynyddoedd sydd wedi eu lleoli yn ne-ddwyrain Iwerddon. Maent yn rhedeg o'r gogledd i'r de o Swydd Dulyn trwy Swydd Wicklow cyn dod i ben yn Swydd Wexford. Y mynydd uchaf yn y gadwyn yw Lugnaquilla sydd yn 925m o uchel, ac yr ail fynydd uchaf yw Mullaghcleevaun sydd yn 847m o uchel. Ar ddiwrnod braf gellir gweld copaon Mynyddoedd Wicklow o ucheldir gogledd-orllewin Cymru.
Mae'r rhan fwyaf o'r ucheldir hwn yn gorwedd o fewn Parc Cenedlaethol Mynyddoedd Wicklow. Un o'r canolfannau mwyaf poblogaidd yw Glendalough, lle ceir safle mynachlog Geltaidd gynnar a nodweddir gan ei thyrau crwn main.