Nantosuelta
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/9/90/Nantosuelta-Sucellus.jpg/200px-Nantosuelta-Sucellus.jpg)
Duwies Geltaidd y ceir delwau ohoni ac engrheifftiau o'i henw ar feini o dalaith Rufeinig Gâl yw Nantosuelta. Ystyr yr enw yw 'nant droellog'.[1]
Mae hi'n ymddangos ar ei phen ei hun neu fel cymar i Sucellos, duw bragu a gofwaith. Fe'i dangosir gan amlaf yn dal teyrnwialen gyda math o dŷ neu gwt ar ei phen, ffaith sy'n awgrymu ei bod yn dduwies sy'n ymwneud â'r cartref neu'r aelwyd: mae'r delweddau hyn yn arbennig o gyffredin yn nhiriogaeth llwyth y Mediomatrici, yn Alsás.[1] Ond mae ystyr ei henw yn awgrymu ei bod yn un o dduwiesau afonydd y Celtiaid yn ogystal.
Cyfeiriadau
- ↑ 1.0 1.1 Miranda Green, The Gods of the Celts (Sutton, 1993).