Nikon, Patriarch Moscfa
Nikon, Patriarch Moscfa | |
---|---|
Ganwyd | 7 Mai 1605 (yn y Calendr Iwliaidd) Q18769961 |
Bu farw | 17 Awst 1681 (yn y Calendr Iwliaidd) Yaroslavl |
Dinasyddiaeth | Tsaraeth Rwsia |
Galwedigaeth | Eastern Orthodox priest, Eastern Orthodox bishop |
Swydd | bishop of Novgorod, Patriarch of Moscow and all Russia |
llofnod | |
Clerigwr Rwsiaidd oedd Nikon (1605 – 1681) a fu'n Batriarch Moscfa, ac felly'n bennaeth ar Eglwys Uniongred Rwsia, o 1652 i 1666. Aeth ati i ddiwygio disgyblaeth eglwysig ac i wared y ddefod Rwsiaidd rhag ychwanegiadau diweddar a oedd yn gwyro oddi ar y traddodiad Bysantaidd. Cyflwynodd lyfr gweddi newydd yn 1654 gan sbarduno sgism yn yr eglwys. Trodd nifer o Rwsiaid yn erbyn y drefn newydd, a chafodd yr Hen Gredinwyr hyn eu hanathemeiddio gan y Synod Fawr (1666–67). O ganlyniad i'r gwrthwynebiad yn ei erbyn, diswyddwyd Nikon yn 1666. Er hynny, cedwid ei ddiwygiadau ar waith.
Eginyn erthygl sydd uchod am esgob o'r Eglwys Uniongred Ddwyreiniol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.