Nofel dditectif
Math arbennig o nofel yw'r nofel dditectif. Fel rheol, mae'n disgrifio trosedd, llofruddiaeth gan amlaf, ac yn dilyn ymdrechion ditectif, ar ei ben ei hun neu fel aelod o dîm, i ddatrys yr achos a dwyn y troseddwr i'r ddalfa. Gall y ditectif fod yn aelod o'r heddlu neu yn unigolyn preifat.
Mae'r nofel dditectif yn genre llenyddol cydnabyddedig, a chynigir nifer o wobrau llenyddol am y math yma o nofel. Tra bod llawer o nofelau ditectif yn cyflwyno'r broses ddatgelu fel pôs, lle mae'r darllenydd yn cael yr un dystiolaeth â'r ditectif ac yn ceisio dyfalu'r person euog o'i flaen, mae eraill yn ymwneud ag agweddau seicolegol neu themâu megis euogrwydd.
Awduron nofelau ditectif
- Arthur Conan Doyle, awdur nofelau a straeon byrion am Sherlock Holmes (Saesneg)
- Georges Simenon, awdur nofelau am Maigret (Ffrangeg)
- John Ellis Williams, nofelau Cyfres Hopcyn a Cyfres Parri (Cymraeg)