Ogof Fingal
Math | ogof arfordirol, ogof i ymwelwyr ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 56.43139°N 6.34142°W ![]() |
Hyd | 1,130 metr ![]() |
Cyfnod daearegol | Paleosen ![]() |
Mae Ogof Fingal ar ynys Stafa, un o Ynysoedd Mewnol Heledd yng ngogledd-orllewin yr Alban. Mae’r ogof yn nodweddiadol am ei cholofnau Basalt, ac yn denu twristiaid, fel arfer o ynys Muile, 10 cilomedr i ffwrdd. Mae’r ogof yn 75 medr o hyd, 14 medr o led a 22 medr o uchder. Enw Gaeleg yr ogof yw Uamh-Binn (ogof melodi). Crewyd yr ogof a Sarn y Cawr (Saesneg: Giant’s Causeway) gan yr un llif o lafa tua 60 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Yn ôl chwedl, roeddent yn rhan o bont defyddiwyd gan Fionn mac Cumhaill i gyrraedd yr Alban.[1]
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/4/4f/FingalsCave01LB.jpg/260px-FingalsCave01LB.jpg)
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/7/71/FingalsCave02LB.jpg/260px-FingalsCave02LB.jpg)
Ysbrydolwyd Felix Mendelssohn i greu cerddoriaeth gan yr ogof a sŵn y tonnau.[2]
Cyfeiriadau
- ↑ Gwefan atlasobscura
- ↑ "Gwefan visitscotland.com". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-09-28. Cyrchwyd 2020-05-13.