Pen-bre a Phorth Tywyn

Pen-bre a Phorth Tywyn
Mathcymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth7,957, 8,547, 8,212 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Gaerfyrddin Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd4,145.8 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.682°N 4.262°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000495 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruLee Waters (Llafur)
AS/au y DUNia Griffith (Llafur)

Cymuned yn Sir Gaerfyrddin yw Pen-bre a Phorth Tywyn (Saesneg: Pembrey and Burry Port). Saif yn nwyrain y sir, rhwng aberoedd Afon Llwchwr ac Afon Gwendraeth, a rhwng Llanelli a Chydweli. Hyd at 2000, enw'r gymuned oedd Cefn Sidan, ar ôl y traeth.

Mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi mawr Porth Tywyn a Pen-bre. Tu ôl i draeth Cefn Sidan mae coedwig eang Coedwig Pen-bre, gyda pharc gwledig i'r de-ddwyrain iddi. Yn ôl cyfrifiad 2001 roedd gan y gymuned boblogaeth o 7,957 gyda 53.40% ohonynt yn medru rhywfaint o Gymraeg.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Lee Waters (Llafur)[1] ac yn Senedd y DU gan Nia Griffith (Llafur).[2]

Cyfrifiad 2011

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Pen-bre a Phorth Tywyn (pob oed) (8,547)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Pen-bre a Phorth Tywyn) (2,625)
  
31.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Pen-bre a Phorth Tywyn) (6676)
  
78.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Pen-bre a Phorth Tywyn) (1,791)
  
47.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau

  1. Gwefan Senedd Cymru
  2. Gwefan Senedd y DU
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]

Dolen allanol