Plaid Ddemocrataidd yr Unol Daleithiau
Plaid Ddemocrataidd Democratic Party | |
---|---|
Cadeirydd | Tom Perez (NY) |
Arlywydd UDA | Joe Biden (DE) |
Is-Arlywydd UDA | Kamala Harris (CA) |
Sefydlwyd | Ionawr 8, 1828 |
Rhagflaenwyd gan | Plaid Ddemocrataidd-Weriniaethol |
Pencadlys | 430 Stryd De Capitol SE, Washington, D.C., 20003 |
Asgell myfyrwyr | Democratiaid Coleg America Democratiaid Ysgol Uwchradd America |
Asgell yr ifanc | Democratiaid Ifanc America |
Aelodaeth (2020) | 45,715,952 |
Rhestr o idiolegau | Mwyafrif: • Rhyddfrydiaeth fodern • Rhyddfrydiaeth gymdeithasol Carfannau: • Canoli • Ceidwadaeth • Poblyddiaeth adain chwith • 'Blaengarwch' • Democratiaeth gymdeithasol |
Seddi yn y Senedd | 48 / 100
|
Seddi yn y Tŷ | 221 / 435
|
Symbol etholiad | |
Gwefan | |
democrats.org |
Mae'r Plaid Ddemocrataidd yr Unol Daleithiau (Saesneg: Democratic Party of the United States) yn un o'r ddwy blaid wleidyddol fwyaf yn yr Unol Daleithiau America. Y llall yw'r Blaid Weriniaethol. Mae gan yr UD hefyd sawl plaid wleidyddol lai o'r enw trydydd partïon. Gelwir cefnogwyr y blaid hon yn Ddemocratiaid.
Gelwir y Democratiaid, hefyd weithiau'n 'chwith', 'rhyddfrydwyr' neu'n 'flaengar'. Weithiau gelwir Talaith Ddemocrataidd yn bennaf yn 'Talaith las'. Daw hyn o brif liw'r blaid, sy'n las ers 2000. Symbol y Blaid Ddemocrataidd yw'r Asyn.[1]
Bob pedair blynedd mae'r blaid yn cynnal Confensiwn Cenedlaethol lle maen nhw'n cytuno ar eu hymgeisydd am Arlywydd. Mae'r Pwyllgor Cenedlaethol Democrataidd yn cydlynu'r rhan fwyaf o weithgareddau'r Blaid Ddemocrataidd ym mhob un o'r 50 Unol Daleithiau. Bu 14 o lywyddion Democrataidd, a'r mwyaf diweddar oedd Barack Obama, a oedd yn Arlywydd rhwng 2009 a 2017. Mae'r Blaid Ddemocrataidd yn cynrychioli sbectrwm eang o ideolegau chwith, gan gynnwys rhyddfrydiaeth glasurol, democratiaeth gymdeithasol, blaengaredd a sosialaeth.
Hanes[2]
Dechreuodd y blaid hynnaf yn y byd dod i'r amlwg ddiwedd y 1820au o gyn-garfanau o'r Blaid Ddemocrataidd-Weriniaethol, a oedd wedi cwympo i raddau helaeth erbyn 1824. Fe'i hadeiladwyd gan Martin Van Buren, a gynullodd fframwaith o wleidyddion ym mhob talaith y tu ôl i'r arwr rhyfel Andrew Jackson o Tennessee. Roedd patrwm a chyflymder y ffurfiant yn wahanol o dalaith i dalaith. Erbyn canol y 1830au roedd bron pob un o bleidiau taleithiol y Ddemocrataidd yn unffurf.
Roedd Andrew Jackson o'r tu allan ac yn mynd yn erbyn yr elitaeth yn Etholiad Arlywyddol 1828. Enillodd Jackson yr Etholiad yma, yn erbyn y Gweriniaethwr Cenedlaethol John Quincy Adams, gan ddod yn Arlywydd cyntaf y blaid. Roedd nifer yn galw fe'n 'Jackass' ac felly dyna pam daeth yr asyn yn symbol y blaid, gyda Jackson yn nodi bod asynod yn symbol o "ddygnwch". A'r ôl yr ennill etholiad 1828 yn ysgubol credi'r blaid maen nhw oedd yn cynrychioli’r bobl gan ddod a'r enw Plaid Ddemocrataidd i fodolaeth.
Mi roedd dechreuad y blaid yn cael ei nodi yn un tywyll gyda gweinyddiaeth Jackson yn 1830 yn mynd ati i ddiarddel pobl frodorol America i wersylloedd ymhellach i'r gorllewin.
Roedd yna ideoleg yn y blaid yn y 1840au o ddominyddu De America i gyd gan greu gwladwriaeth o Americanwyr Gwyn drwy ddilyn 'manifest destiny'. Mi wnaeth James K Polk dilyn hyn trwyddo drwy ymestyn y wlad gan gipio Texas, Oregon ac ennill rhannau o Fecsico drwy ryfel Mecsico.
Mi roedd yna newid mawr i'r system wleidyddol ym 1860au wrth i'r Blaid Weriniaethol gael ei lansio. Roedd y Blaid Ogleddol yma, y Gweriniaethwyr, yn wrthblaid gref i'r datblygiad pellach o Gaethwasiaeth. Ar y llaw arall roedd y Democratiaid o blaid Caethwasiaeth oherwydd roedd ganddynt gefnogaeth gref yn nhaleithiau De Ddwyrain oedd o blaid caethwasiaeth.
Ar ôl i Abraham Lincon gael ei ethol yn arlywydd Gweriniaethol yn 1861, dechreuodd Rhyfel Cartref, gyda'r Taleithiau Cydffederal America yn y De ddwyrain yn erbyn y taleithiau eraill. Roedd Taleithiau Cydffedral o blaid Caethwasiaeth ac yn erbyn Lincon. Jefferson Davis, Democratiaid, oedd unig Arlywydd Taleithiau Cydffederal America.
Ar ôl y Rhyfel Cartref roedd pleidleiswyr oedd eisiau cadw eu goruchafiaeth gwyn yn y De-ddwyrain yn erbyn y Blaid Gwerinaethol. Felly mi wnaeth y Blaid Democrataid addewid i gyfyngu ymyriadau llywodraeth ffederal a fydd yn cyfyngu ar hawlaiau pobl du.
Yn ystod 1870au-1890au mi wnaeth y blaid ennill nifer o seddi yn deddwrfa taleithol a lleol gan scirhau dirwasgiad parhaus ar hawliau pobl du.
Yn yr ugainfed ganrif mi wnaeth y blaid dechrau newid gan dod yn blaengar (Progressive), roedd diwygwyr o fewn y blaid wedi dechrau siapio'r blaid i rheoleiddio busnesau mawr gan gwella bywydau pobl cyffredin. Mi wnaeth Woodrow Wilson ennill etholiad Arlywyddol 1912 gan sicrhau rhoi'r agenda blaengar mewn i weithred yn erbyn y blaid weriniaethol. Roedd y blaid amser hynny yn blaid ar gyfer busnes.
Ond yn ystod y Dirwasgiad Mawr o'r 1930au mi wnaeth Arlywydd Franklin D. Roosevelt creu'r 'bargen newydd' rhwng 1933 a 1939. Dyma becyn o brosiectau llywodraethol domestig a oedd ar y pryd y fwyaf o'i math mewn hanes America. Mi wnaeth hwn cynyddu maint lywodraeth gan greu llywodraeth oedd yn ymyrryd ar fywydau pobl er gwell.
Erbyn 1950au roedd y blaid dal i fod yn rhanedig ar ran hil, gydag aelodau yn y De oedd o blaid arwahanu a diwygwyr rhyddfrydig yn ceisio ei diddymu. Cafodd hyn ei uwcholeuo yn 1964 pan wnaeth y Senedd bleidleisio'r ddeddf hawliau sifil gwrth arwahanu. Roedd y diwygwyr wedi llwyddo i droi mwyafrif o'r aelodau i fod o blaid y ddeddf er roedd aelodau De Ddwyrain yn gwrthwynebu.
Mi wnaeth y diwygiad hwn i fod o blaid cyfiawnder cymdeithasol a rhyddfrydiaeth gymdeithasol achosi newid mawr mewn patrwm pleidleisio. Gwelwyd cynyddiad parhaus pleidleiswyr Du yn pleidleisio dros y Blaid Ddemocrataidd yn ogystal ag pobl gwyn deheuol yn troi at y Gweriniaethwyr ar ôl blynyddoedd o gefnogi'r Blaid Ddemocrataidd. Gwnaeth y blaid gweld cwymp mewn poblogrwydd yn yr ardaloedd hynny.
Rhwng 1968 a 1988 dim ond un Arlywydd Democratiaid cafodd ei ethol sef Jimmy Carter yn 1976.
Mae'r Democratiaid hefyd wedi ennill y bleidlais boblogaidd yn 2000 a 2016, ond wedi colli'r Coleg Etholiadol gydag Al Gore a Hillary Clinton, yn y drefn honno.
Cafodd Barack Obama ei ethol yn Arlywydd Du cyntaf Unol Daleithiau yn 2008, gyda nifer yn nodi mae oherwydd cefnogaeth pleidleiswyr aml diwylliannol America (Sbaenaidd a BAME) cafodd Obama ei ethol am ddau dymor.
Yn ras arlywyddol 2016, dewisodd y Democratiaid Hillary Clinton fel eu henwebai, y tro cyntaf i blaid fawr yn yr Unol Daleithiau gael menyw ar frig ei thocyn arlywyddol. Er gwaethaf ennill y bleidlais boblogaidd gan bron i dair miliwn o bleidleisiau, methodd Clinton â chymryd digon o daleithiau yn y coleg etholiadol, ac enillwyd yr arlywyddiaeth gan y Gweriniaethwr Donald J. Trump. Ar ben hynny, cadwodd y Blaid Weriniaethol reolaeth ar ddwy siambr y Gyngres yn etholiad 2016. Tan y tymor canol ddwy flynedd yn ddiweddarach, pan enillwyd y Democratiaid y Tŷ yn yr hyn a ddisgrifiodd rhai fel “ton las.”[3]
Dosbarthiad yn yr UDA ac athroniaeth
Mae'r blaid yn cael cefnogaeth helaeth yn daleithiau ar ochor Gorllewin y wlad a'r Arfordir y Môr Tawel, y Gogledd Ddwyrain, Dinasoedd fel D.C ac Efrog Newydd. Gelwir yr ardaloedd yma yn 'Wal Las', dyma 18 o daleithiau'r Unol Daleithiau ac Ardal Columbia ac enillwyd gan y Blaid Ddemocrataidd yn gyson mewn etholiadau arlywyddol rhwng 1992 a 2012. Ond gwelwyd 3 Talaith yn pleidleisio dros Donald Trump (Weriniaethol) yn 2016.
Mae Democratiaid yn credu mewn llywodraeth gref gyda rhaglenni cymorth cymdeithasol i helpu aelodau o gymdeithas. Mae'n well ganddyn nhw atebion diplomyddol i wrthdaro, ac maen nhw'n arddel safbwynt amddiffynnol yn gyffredinol ar fasnach, gan gredu bod yn rhaid rheoleiddio masnach i amddiffyn gweithwyr Americanaidd.
Yn gymdeithasol, mae'r rhan fwyaf o Ddemocratiaid yn credu mewn rhyddfrydiaeth gymdeithasol, gan fod o blaid mewnfudo, priodas hoyw, a safbwyntiau o blaid dewis erthyliad. [4] [5] [6] [7]
Credoau Democrataidd cyfredol
Yn gyffredinol mae Democratiaid yn cefnogi :
- Treth incwm blaengar
- Trethi corfforaethol uwch ac ail-ddal incwm o elw tramor
- Gwario ar fusnes, addysg, seilwaith, ynni glân
- Ehangu gwariant ar raglenni'r llywodraeth
- Ehangu hawliau i Erthyliad
- Cyfyngiadau ar ddefnyddio arfau a defnyddwyr a allai fod yn beryglus trwy oruchwyliaeth y llywodraeth
- Gofal iechyd cyffredinol
Arlywyddion Democrataidd yr UDA
- Arlywyddion yn ystod y 19eg ganrif
- Andrew Jackson (1829 - 1837)
- Martin Van Buren (1837 - 1841)
- John Tyler (1841 - 1845) (Democrat am y rhan fwyaf o’i oes, etholwyd Tyler yn ymgeisydd y Chwigiaid ar gyfer Is-arlywydd, ond fe gysylltodd â’r Democratiaid ar ôl cymryd yn ganiataol yr arlywyddiaeth ar ôl marwolaeth William Henry Harrison. )
- James K. Polk (1845 - 1849)
- Franklin Pierce (1853 - 1857)
- James Buchanan (1857 - 1861)
- Andrew Johnson (1865 - 1869) (Democrat am y rhan fwyaf o’i oes, etholwyd Johnson yn ymgeisydd yr Is-arlywydd yr Undeb Cenedlaethol, ond fe gysylltodd â’r Democratiaid ar ôl cymryd yn ganiataol yr arlywyddiaeth ar ôl llofruddiaeth Abraham Lincoln.)
- Grover Cleveland (1885–1889 a 1893–1897)
- Arlywyddion yn ystod yr 20g
- Woodrow Wilson (1913 - 1921)
- Franklin D. Roosevelt (1933 - 1945)
- Harry S. Truman (1945 - 1953)
- John F. Kennedy (1961 - 1963)
- Lyndon B. Johnson (1963 - 1969)
- Jimmy Carter (1977 - 1981)
- Bill Clinton (1993 - 2001)
- Arlywyddion yn ystod yr 21ain ganrif
- Barack Obama (2009 - 2017)
- Joe Biden (2021-Deilliad)
Cyn Ddemocratiaid
- Ronald Reagan (California), 40fed Arlywydd yr Unol Daleithiau (1981–1989). Democrat Cofrestredig tan 1962.
- Condoleezza Rice (Alabama), 66ain Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau (2005-2009). Democrat Cofrestredig tan 1982.
- Rudy Giuliani ( Efrog Newydd ), 107fed Maer Dinas Efrog Newydd (1994-2001). Democrat Cofrestredig tan 1975.
- Rick Perry (Texas), 14eg Ysgrifennydd Ynni yr Unol Daleithiau (2017-2019), 47ain Llywodraethwr Texas (2000–2015). Democrat Cofrestredig tan 1989.
- Jesse Helms (Gogledd Carolina), Seneddwr yr Unol Daleithiau (1973-2003). Democrat Cofrestredig (1942–1970).
- Donald Trump (Efrog Newydd), 45ain Arlywydd yr Unol Daleithiau (2017-cyfredol), Democratiaid Cofrestredig tan 2009.[8]
Cyfeiriadau
- ↑ see "History of the Democratic Donkey"
- ↑ From white supremacy to Barack Obama: The history of the Democratic Party, Vox(Ar Youtube), 7 Tachwedd 2016
- ↑ "Democratic Party | History, Definition, & Beliefs". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-07-30.
- ↑ Paul Starr. "Center-Left Liberalism". Princeton University. Archifwyd o'r gwreiddiol ar March 3, 2015. Cyrchwyd June 9, 2014.
- ↑ Frumin, Aliyah (November 25, 2013). "Obama: 'Long past time' for immigration reform". MSNBC.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-01-21. Cyrchwyd January 26, 2014.
- ↑ "Changing Views on Social Issues" (PDF). April 30, 2009. Cyrchwyd May 14, 2009.
- ↑ "Pew Research Center. (May 10, 2005). Beyond Red vs. Blue, p. 1 of 8". 2005-05-10. Archifwyd o'r gwreiddiol ar July 8, 2012. Cyrchwyd July 12, 2007.
- ↑ Tom Murse (July 20, 2019). "Was Donald Trump a Democrat?". ThoughtCo. Cyrchwyd September 13, 2019.