Poetry Wales
Enghraifft o: | cyfnodolyn |
---|---|
Cyhoeddwr | Seren Books |
Iaith | ieithoedd lluosog |
Dechreuwyd | 1965 |
Lleoliad cyhoeddi | Merthyr Tudful |
Lleoliad yr archif | Llyfrgell Genedlaethol Cymru |
Gwefan | http://www.exacteditions.com/read/poetrywales |
Cylchgrawn Cymreig yn yr iaith Saesneg yw Poetry Wales, a sefydlwyd ym 1965. Cyhoeddir yn chwarterol gan Seren Books a'r golygydd presennol yw Zoë Skoulding.[1]
Hanes
Sefydlwyd y cylchgrawn ym 1965 gan Meic Stephens, a oedd eisiau atgyfnerthu hunaniaeth Cymry di-Gymraeg a darparu fforwm ar gyfer cyhoeddi barddoniaeth ac adolygiadau Eingl-Gymreig.[2]
Golygyddion
- Meic Stephens 1965–1967 ac 1969–1973
- J. P. Ward 1975–1980
- Mike Jenkins 1986–?
- Robert Minhinnick 1998–2008
- Zoë Skoulding 2008–[3]
Cyfeiriadau
- ↑ Poetry Wales. Seren Books. Adalwyd ar 9 Chwefror 2010.
- ↑ Poetry Wales. Encyclopedia of Literature. Adalwyd ar 9 Chwefror 2010.
- ↑ Bangor-based Editor for Poetry Wales. Prifysgol Bangor (31 Gorffennaf 2008).