Pont_Mynwy

Pont Mynwy
Mathpont bwa dec, pont droed, pont gaerog, pont Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 13 g Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadTrefynwy Edit this on Wikidata
SirTrefynwy, Trefynwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr14 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.809°N 2.71996°W, 51.808973°N 2.720045°W Edit this on Wikidata
Hyd34.8 metr Edit this on Wikidata
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Manylion
Deunyddtywodfaen Edit this on Wikidata
Dynodwr CadwMM008 Edit this on Wikidata

Pont garreg gaerog sy'n croesi Afon Mynwy yn Nhrefynwy, Sir Fynwy, Cymru, yw Pont Mynwy (hefyd Pont Trefynwy). Saif tua 1,600 troedfedd (500 m) tua'r gorllewin o gydlifiad Afon Mynwy ag Afon Gwy. Dyma’r unig bont afon sydd wedi goroesi ym Mhrydain gyda’i thŵr porth yn sefyll ar y bont.

Mae'r bont yn dyddio o 1272. Fe'i hadeiladwyd o dywodfaen coch; mae ganddi dri bwa. Mae'r tŵr porth gyda phorthcwlis yn dyddio o 1297 i 1315. Cafodd ei lledu ar y ddwy ochr yn gynnar yn y 19g, pan dorrwyd bwâu cerddwyr trwy dyrau y porthdy. Cafodd y bont ei hatgyfnerthu yn 1839 ac mae'n rhan o Muriau Tref Trefynwy.[1]

Credir i bont bren sefyll yma o'r blaen, ac yn 1988 cafwyd tystiolaeth archaeolegol o hynny.[2] Dengys dyddio radiocarbon i'r coed a ddefnyddiwyd yn dod o gyfnod rhwng 1123 a 1169.

Oriel

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. "Monnow Bridge and Gate", Coflein; adalwyd 14 Chwefror 2025
  2. M.L.J., Rowlands, Monnow Bridge and Gate (Alan Sutton Publishing, 1994)

Dolenni allanol