Popocatépetl
![]() | |
Math | llosgfynydd ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Talaith Mecsico, Puebla, Morelos ![]() |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 5,452 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 19.02222°N 98.62778°W ![]() |
Manylion | |
Amlygrwydd | 3,020 metr ![]() |
Rhiant gopa | Citlaltepetl ![]() |
Cadwyn fynydd | Gwregys Folcanig Traws-Mecsico ![]() |
Deunydd | andesite ![]() |
Llosgfynydd ym Mecsico yw Popocatépetl (Nahwatleg: Popōca tepētl, "y mynydd sy'n mygu"). Saif yng nghanolbarth y wlad, ar ffiniau taleithiau Morelos, Puebla a Mecsico a 55 km i'r de-ddwyrain o Ddinas Mecsico.
Popocatépetl yw llosgfynydd ail-uchaf Mecsico, ar ôl Pico de Orizaba. Ers 1354, cofnodir iddo ffrwydro 18 o weithiau. Cofnodir i aelodau o lwyth y Tecuanipas ddringo'r mynydd yn 1289, ac i'r Sbaenwyr dan Diego de Ordás ei ddringo yn 1519. Yn 1994, dynodwyd y mynachlogydd ar ei lethrau yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.