Cyfansoddyn rhithweledigaethol a gynhyrchir yn naturiol gan ryw 200 rhywogaeth o fadarch yw psilocybin— rhywogaethau y cyfeirir atynt fel madarch psilocybin.[1]. Ymhlith y madarch hyn, mae'r psilocybe semilanceata yn nodedig am ei bod yn meddu ar un o'r crynodiadau uchaf o'r cyfansoddyn psilocybin a chan ei bod yn tyfu yng Nghymru [2]. Yn y corff caiff psilocybin ei drawsnewid yn psilocin, sylwedd sydd y mae iddo effeithiau newid-fyddyliol cyffelyb i LSD. Yn gyffredinol, gall beri teimladau o wynfyd ac achosi rhithweledigaethau gweledol a meddyliol, newidiadau yn y modd y cenfyddir, gan gynnwys synwyr amser gwyrdröedig a phrofiadau ysbrydol.