Rembrandt
Rembrandt | |
---|---|
Ganwyd | Rembrandt Harmenszoon van Rijn 15 Gorffennaf 1606 Leiden |
Bu farw | 4 Hydref 1669 Amsterdam |
Man preswyl | Rembrandthuis |
Dinasyddiaeth | Gweriniaeth yr Iseldiroedd |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | arlunydd, drafftsmon, gwneuthurwr printiau, casglwr celf, ysgythrwr, casglwr, artist |
Adnabyddus am | Yr Wylfa Nos, Syndics of the Drapers' Guild, Y Briodferch Iddewig, Gwledd Belsassar |
Arddull | portread (paentiad), paentiadau crefyddol, paentiad mytholegol, peintio genre, peintio hanesyddol, hunanbortread, celf tirlun, portread, tronie, bywyd llonydd, vanitas, hunting still life, mythological art, winter landscape |
Mudiad | peintio Oes Aur yr Iseldiroedd |
Tad | Harmen Gerritszoon van Rijn |
Mam | Neeltje Willemsdr. Zuytbrouck |
Priod | Saskia van Uylenburgh |
Partner | Geertje Dircx, Hendrickje Stoffels |
Plant | Titus van Rijn, Cornelia van Rijn |
llofnod | |
Arlunydd o'r Iseldiroedd oedd Rembrandt Harmenszoon van Rijn (15 Gorffennaf 1606 – 4 Hydref 1669). Mae'n cael ei gyfri fel un o arlunwyr ac ysgythrwr mwyaf Ewrop ac yn sicr y gorau yn hanes celf yr Iseldiroedd.[1] Cyfrannodd yn helaeth mewn cyfnod o gyfoeth a bwrlwm celfyddydol a elwir yn Oes Aur yr Iseldiroedd a oedd yn ddull cwbwl groes i'r traddodiad Baróc a oedd yn parhau drwy weddill Ewrop.
Bywyd
Fe'i ganwyd yn Leiden. Fel arlunydd ifanc cafodd gryn lwyddiant yn paentio lluniau o bobl. Cafodd hefyd fywyd llawn trasiedi a chaledi ariannol, eto roedd ffrwyth ei lafur yn hynod boblogaidd drwy gydol ei oes a chanmolwyd ef gan y beirniaid a'r bobl gyffredin.[2] Am ugain mlynedd dysgodd eraill sut i beintio, gyda nifer o'i ddisgyblion yn arlunwyr enwog o'r Iseldiroedd.[3] Efallai mai lluniau o'i gyfoeswyr yw'r lluniau gorau a wnaeth, a golygfeydd o'r Beibl. Mae ei hunanbortreadau'n dweud llawer amdano ac yn ddarluniau gonest, di-duedd.[1]
-
Paentiad olew o Gatrina Hooghsaet yng Nghastell y Penrhyn, Gwynedd.
-
Hunanbortread gyda llygaid agored, 1630.
-
Dameg y ffwl cyfoethog, 1627
Mae ei luniau (olew ac ysgythriadau) yn brawf o'i wybodaeth am eiconnau clasurol, a addasodd i'w bwrpas ei hun; er enghraifft, mae ei olygfeydd beiblaidd yn dangos ei fod wedi'i drwytho yn y testun ei hun yn drwyadl ac yn aml yn adlewyrchu ei ymchwil i bryd a gwedd Iddewon Amsterdam.[4] Mae'r portradau hyn yn dangos ei empathi tuag at y ddynol ryw ac oherwydd hyn caiff ei alw'n aml yn "un o Broffwydi mwyaf gwareiddiad".[5]
Priododd Rembrandt ei wraig, Saskia van Uylenburgh, ym 1634. Bu farw Saskia ym 1642.
Oriel
Hunan portreadau
-
Rembrand Ifanc, tua; 1628, yn 22 oed. Wrth ymarfer 'chiaroscuro'.
Rijksmuseum -
Hunan bortread, tua;1629;
Germanisches Nationalmuseum, Nuremberg -
Hunan bortread, 1630, Nationalmuseum, Stockholm
-
'Hunan bortread, gyda beret melfed a mantell, 1634
-
Self-portrait, yn 34 oed, 1640
-
Hunan bortread, olew ar gynfas 1652.
Amgueddfa Kunsthistorisches, Fienna -
Hunan bortread, 1660
-
Hunan bortread gyda dau gylch, 1660.
Tŷ Kenwood, Llundain -
Hunan bortread fel Zeuxis,
tua; 1662.
Amgueddfa Wallraf-Richartz, Cologne -
Hunan bortread, 1669.
-
Hunan bortread dyddiedig 1669, y blwyddyn a bu farw, er ei fod yn ymddangos yn hyn mewn hunan bortreadau eraill.
National Gallery, Llundain
Gwaith arall
-
Portread ei wraig, Saskia
-
Llabyddio Sant Steffan, 1625, Peintiad cyntaf Rembrandt yn 19 oed.[6]
Musée des Beaux-Arts de Lyon. -
Jeremiah ym galaru dinistrio Caersalem tua;1630
-
Yr Athronydd yn myfyrio, 1632
-
Gwers Anatomeg Dr. Nicolaes Tulp, 1632
-
Abraham ac Isaac, 1634
-
Dallu Samson, 1636,
-
Saskia mewn het goch, 1635
-
Susanna, 1636
-
Gwledd Belshazzar, 1636-8
-
Archangel yn gadael Tobias, 1637
-
Tirwedd gyda Samaraid da, 1638
-
Susanna a'r henuriad, 1647
-
Y Felin, 1648
-
Hen Ddyn mewn Coch, 1652-1654
-
Aristotle gyda phenddelw Homer, 1653
Amgueddfa Celf Metropolitan Efrog Newydd -
Merch Ifanc Wrth y Ffenestr, 1654
-
Portread y Maer diweddarach Jan Six, cyfaill cyfoeethog Rembrandt, 1654
-
Bathseba wrth ei Bath, 1654
-
Merch yn Ymdrochi Mewn Nant, 1655
-
Gwraig wrth y drws, 1657-1658
-
Y Briodferch Iddewig', 1658.
-
Ahasuerus ac Haman yng ngwledd Esther, 1660
-
Sant Bartholomew, 1661,
Amgeuddfa J. Paul Getty -
Aelodau Urdd y Brethynnwr, 1662
-
Cynllwyrn y Batafianwyr o dan Claudius Civilis, 1661–62
-
Jacob yn Bendithio Meibion Joseff, 1656
-
Y Mab Afradlon yn Dychwelyd, rhan, tua;1669
Darluniau ac ysgythriadau
-
Hunan bortread mewn cap gyda llygaid agored, 1630
-
Hunan bortread,
tua. 1628-1629 -
Chwarae rôl Hunan bortread fel teyrnaswr dwyreiniol gyda chris (cleddyf), 1634
-
Y Print Cant Guilder, tua; 1647–1649,
-
Susanna a'r henuriad, darlun, 1634
-
Hunan bortread gyda Saskia, ysgythriad, 1636
-
Hunan bortread yn pwysau ar silff ffenest ysgythriad, 1639
-
Y Tair Groes, ysgythriad, 1653,
-
Crist a'r merched a gymerwyd mewn godineb, darlun
-
Y forwyn gyda phlentyn a chath, 1654. Ysgythriad copr gwreiddiol uchod, y print isod
-
Eliffant, 1637
-
Cyflwyno Crist i'r Bobl, 1655
Cyfeiriadau
- ↑ 1.0 1.1 Gombrich, p. 420.
- ↑ Gombrich, tud. 427.
- ↑ Clark 1969, tt. 203
- ↑ Clark 1969, tt. 203–204
- ↑ Clark 1969, tt. 205
- ↑ Starcky, Emmanuel (1990). Rembrandt. Hazan. t. 45. ISBN 2-85025-212-3.