Rheol trydyddau

Mae'r llun hwn o fachlud haul yn yr ardal Thousand Islands yn dangos egwyddor y rheol trydyddau

Canllaw yw Rheol trydyddau a ddefnyddir yn aml yn y broses o greu delweddau megis dyluniadau, ffilmiau, paentiadau a ffotograffau.[1]

Mae'n cynnig y dylid dychmygu delwedd gyda naw rhan hafal a rennir gan ddwy linell lorweddol a dwy linell unionsyth ac y dylai elfennau pwysig bod ar y llinellau neu'r croesdoriadau hyn.[2]

Mae'r rhai sydd o blaid y dull yn honni fod delweddau sydd'n dilyn y rheol yn creu mwy o densiwn, egni a diddordeb yn y cyfansoddiad na rhoi'r gwrthrych yn y canol.

Mae'r llun ar y dde yn dangos defnydd o'r rheol trydeddau. Mae'r gorwel yn eistedd ar y llinell llorwedd sydd yn torri'r trydydd is o wedddill y llun. Mae'r coeden yn eistedd ar y pwynt lle mae'r llinellau yn croesi. Nid oes angen i bwyntiau o ddiddordeb cyffwrdd ar linell er mwyn manteisio ar y rheol. Er enghraifft mae'r darn disglair o'r awyr sydd yn agos i'r gorwel yn chwympo ar y pwynt lle mae llinellau yn croesi, yn digon agos i fanteisio ar y rheol

Defnydd

Dyma enghraifft o lun sydd wedi ei docio heb, a gyda'r, rheol trydyddau.

Llun heb y rheol, a llun gyda'r rheol


Cyfeiriadau

  1. Sandra Meech (2007). Contemporary Quilts: Design, Surface and Stitch. Sterling Publishing. ISBN 0-7134-8987-1.
  2. Bryan F. Peterson (2003). Learning to see creatively. Amphoto Press. ISBN 0-8174-4181-6.

Gweler hefyd

  • Y petrual aur