Rhestr ymosodiadau terfysgol

Dyma restr digwyddiadau terfysgol, ac eithrio terfysgaeth wladwriaethol, terfysgaeth a noddir gan wladwriaethau, a bradlofruddiaethau.

1800–1899

Ymosodiad Dyddiad Lleoliad Manylion Marwolaethau Clwyfedigion Terfysgwr Gwrthdaro neu ideoleg
Ymosodiad theatr Liceu 7 Tachwedd 1893 Sbaen Barcelona, Sbaen Yn ystod ail act yr opera Guillermo Tell (Rossini), fe daflodd yr anarchydd Santiago Salvador ddau fom o'r balconi i mewn i'r seddau yn El Gran Teatre del Liceu, Barcelona. Ffrwydrodd un ohonynt, gan ladd saith o bobl ar unwaith a 13 arall o'u hanafiadau yn ystod yr oriau i ddod. Cafodd 27 o bobl eu hanafu heb farw. Dihangodd Salvador ond cafodd ei ddal gan yr heddlu yn Zaragoza ddeufis wedi'r trosedd ac yn sgil ei dreial cafodd ei ddienyddio trwy'r llindag. Roedd yr ymosodiad yn ddial am ddienyddio'r anarchydd Paulino Pallás, a geisiodd lladd y Cadfridog Martinez de Campos ym mis Medi 1893.[1] 20 27 Santiago Salvador Propaganda'r weithred (anarchiaeth)
Ffrwydrad Café Terminus 12 Chwefror 1894 Ffrainc Paris, Ffrainc Taflodd bom i mewn i'r caffi. 1 19 Émile Henry Propaganda'r weithred

1900–1959

Ymosodiad Dyddiad Lleoliad Manylion Marwolaethau Clwyfedigion Terfysgwr Gwrthdaro neu ideoleg
Ffrwydrad Wall Street 16 Medi 1920 UDA Efrog Newydd, UDA Targed yr ymosodiad oedd Wall Street, canolfan ariannol yr Unol Daleithiau. Gyrrwyd ceffyl i mewn i'r stryd yn tynnu cert llawn deinameit a phelenni. Ni wyddys pwy yn union oedd yn gyfrifol, ond mae'n sicr roedd yn rhan o ymgyrch fomio'r anarchwyr Galleanaidd. 38 143 Anhysbys Anarchiaeth
Ffrwydrad Eglwys St Nedelya 16 Ebrill 1925 Bwlgaria Sofia, Bwlgaria Ffrwydrodd cromen Eglwys St Nedelya yn ystod angladd y Cadfridog Konstantin Georgiev, a gafodd ei lofruddio deuddydd ynghynt gan gomiwnyddion. Roedd y mwyafrif o'r meirw yn wleidyddion a swyddogion milwrol. 150 ~500 Plaid Gomiwnyddol Bwlgaria
Ymosodiad ar westy'r King David 22 Gorffennaf 1946 Jeriwsalem, Mandad Palesteina (heddiw Israel) Ffrwydrodd y gwesty King David, pencadlys y llywodraeth Brydeinig ym Mhalesteina, gan derfysgwyr Seionaidd yr Irgun. Hwn oedd yr achos waethaf o derfysgaeth yn ystod cyfnod y Prydeinwyr ym Mhalesteina (1920–48). 91 46 Irgun Gwrthryfel yr Iddewon yn erbyn Prydain

1960–1979

Ymosodiad Dyddiad Lleoliad Manylion Marwolaethau Clwyfedigion Terfysgwr Gwrthdaro neu ideoleg
Ffrwydrad Eglwys 16th Street 15 Medi 1963 UDA Birmingham, Alabama, UDA Ffrwydrodd bom o dan risiau Eglwys y Bedyddwyr yn Birmingham, gan dargedu cynulledifa o Americanwyr Affricanaidd. Bu farw pedair merch groenddu. Cafwyd tri dyn yn euog o'r drosedd, nifer o flynyddoedd wedi'r digwyddiad.[2] 4 14 KKK Hiliaeth, adlach i'r mudiad hawliau sifil
Swissair 330 21 Chwefror 1970 Y Swistir Würenlingen, Y Swistir Ar gychwyn ei thaith o Zürich i Tel Aviv, ffrwydrodd bom yn yr adran lwythi yng nghefn awyren Convair 990. Ceisiodd y criw troi'r awyren yn ôl i'r maes awyr, ond gwnai'r mwg yng nghaban y peilot eu rhwystro rhag darllen y deialau. Tua deng munud wedi'r ffrwydrad, cwympodd yr awyren i goedwig ger Würenlingen.[3] Taniodd y cerosin yn y tanc petrol a chwythodd yr awyren yn ddarnau. Hawliai'r ymosodiad gan y Ffrynt Poblogaidd dros Ryddid Palesteina (PFLP). Honodd y mudiad taw awyren El Al oedd y targed a heb wybod iddynt cafodd y bom ei roi ar ehediad Swissair wrth ailgyfeirio'r cargo. Ni chafodd yr un person ei erlyn am y trosedd.[4] 47 0 PFLP Gwrthdaro Israelaidd-Palesteinaidd
Lladdfa Maes Awyr Lod 30 Mai 1972 Israel Tel Aviv, Israel Cafodd tri aelod o Fyddin Goch Japan, carfan gomiwnyddol, eu recriwtio gan y Ffrynt Poblogaidd dros Ryddid Palesteina (PFLP) i ddial ar Israel am ladd dau Arab a geisiant herwgipio awyren ym Maes Awyr Lod ar 8 Mai 1972. Cyrhaeddodd y Japaneaid Faes Awyr Lod ger Tel Aviv ar daith o Baris, gyda'r nod o ladd sifiliaid gyda drylliau AK-47 a bomiau llaw o'u bagiau, ac yna lladd eu hunain. Bu farw 17 o Gristnogion o Puerto Rico ar bererindod i'r Tir Sanctaidd, un ddynes o Ganada, ac wyth o Israeliaid gan gynnwys y gwyddonydd Aharon Katzir. Llwyddodd un o'r terfysgwyr i ladd ei hunan gyda grenâd, cafodd un arall ei saethu'n farw gan warchodwyr y maes awyr, a chafodd y trydydd ddyn ei arestio. Fe dreuliodd 13 mlynedd yn y carchar cyn i'r Israeliaid ei ryddhau wrth gyfnewid carcharorion â'r Palesteiniaid.[5] 26 (+2) 79 (+1) Byddin Goch Japan, PFLP Gwrthdaro Israelaidd-Palesteinaidd
Lladdfa München 5–6 Medi 1972 Yr Almaen München, Gorllewin yr Almaen Gemau Olympaidd yr Haf 1972 12 (+5) Medi Du Gwrthdaro Israelaidd-Palesteinaidd

1980–1999

Ymosodiad Dyddiad Lleoliad Manylion Marwolaethau Clwyfedigion Terfysgwr Gwrthdaro neu ideoleg
Ffrwydrad synagog Antwerp 20 Hydref 1981 Gwlad Belg Antwerp, Gwlad Belg Ffrwydrodd bom mewn fan ddosbarthu y tu allan i synagog y gymuned Iddewig-Bortiwgeaidd yng nghanol Antwerp. Y diwrnod hwnnw, ffoniodd dyn yr asiantaeth newyddion Belga i ddatgan taw "Direct Action" oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad, er nad oedd carfan o'r enw yn bodoli yng Ngwlad Belg. Mudiad Rhyddid Palesteina (PLO) oedd ar fai yn ôl llysgenhadaeth Israel, ond condemnio'r ymosodiad a wnaeth swyddfa'r PLO ym Mrwsel gan wadu unrhyw gysylltiad.[6] Hawliai'r ymosodiad gan Fedi Du mewn galwad ffôn i swyddfa'r heddlu yn Antwerp, a rhybudiodd byddai rhagor o fomiau yn taro Brwsel ac Antwerp yn enw'r achos Palesteinaidd.[7] 3[8] 106[8] Medi Du Gwrthdaro Israelaidd-Palesteinaidd
Ffrwydrad llysgenhadaeth UDA yn Libanus 18 Ebrill 1983 Libanus Beirut, Libanus Gyrrodd hunan-fomiwr ei gerbyd i flaen adeilad y llysgenhadaeth Americanaidd yng ngorllewin Beirut, a thaniodd tua 2000 lbs o ddefnydd ffrwydrol.[9] Bu farw 32 o weithwyr Libanaidd, 17 o Americanwyr, a 14 o ymwelwyr a phobl yn mynd heibio.[10] Ymhlith yr Americanwyr bu wyth o aelodau'r CIA, tri o weithwyr yr Asiantaeth dros Ddatblygiad Rhyngwladol, a phedwar aelod y lluoedd arfog. Ymhlith y Libaniaid bu clercod y llysgenhadaeth, rhes o bobl yn ymgeisio am deithebau, a modurwyr a cherddwyr gerllaw. Hawliai'r ymosodiad gan y Mudiad Jihad Islamaidd, i geisio hel yr Americanwyr allan o'r wlad.[11] 63 (+1) 120 Mudiad Jihad Islamaidd Rhyfel Cartref Libanus
Gulf Air 771 23 Medi 1983 Emiradau Arabaidd Unedig Yr Emiradau Arabaidd Unedig 112 0 Mudiad Abu Nidal
Ffrwydradau llysgenadaethau Ffrainc ac UDA yng Nghoweit 12 Rhagfyr 1983 Coweit Dinas Coweit, Coweit 5 86
Ffrwydrad Harrods 17 Rhagfyr 1983 Lloegr Llundain, Lloegr 6 90 PIRA
Ffrwydrad llysgenhadaeth UDA yn Libanus 20 Medi 1984 Libanus Beirut, Libanus 23 (+1) Hizballah Rhyfel Cartref Libanus
Air India 182 23 Mehefin 1985 Cefnfor yr Iwerydd (parth awyr Iwerddon) Chwalodd jet Boeing 747 ar ei thaith o Toronto i Lundain a phlymiodd i lawr i'r Iwerydd, gan ladd pob un o'r teithwyr a'r criw. Bombay oedd cyrchfan derfynol yr awyren, ac amheir i eithafwyr Sicaidd, o'r garfan Babbar Khalsa, gyflawni'r trosedd yn ddial am drais yn erbyn Siciaid yn India ym 1984. Cyhuddwyd dau ddyn yng Nghanada: Talwinder Singh Parmar a Inderjit Singh Reyat. Yn y pen draw gollyngai'r cyhuddiadau yn erbyn Parmar, a chafodd ei ladd gan yr heddlu yn India ym 1992. Cafwyd Reyat yn euog yn 1991 o greu'r bom a wnaeth ladd dau ddyn pac ym Maes Awyr Newydd Tokyo ar yr un diwrnod â thrychineb Air India. Mae'n debyg taw Air India 301 oedd targed y bom hwnnw. Yn 2003 plediodd Reyat yn euog i ddynladdiad yn achos Air India 182.[12] 329 0 Babbar Khalsa Cenedlaetholdeb y Siciaid
EgyptAir 648 23 Tachwedd 1985 Malta Luqa, Malta 58 (+2) Mudiad Abu Nidal
Ymosodiadau ar feysydd awyr Rhufain a Fienna 27 Rhagfyr 1985 Yr Eidal Rhufain, Yr Eidal
Awstria Fienna, Awstria
19 (+4) 138 (+1) Mudiad Abu Nidal
Ffrwydrad disgo La Belle 5 Ebrill 1986 Yr Almaen Gorllewin Berlin, Gorllewin yr Almaen 3 229
Pan Am 73 5 Medi 1986 Pacistan Karachi, Pacistan 43 120 Mudiad Abu Nidal
Trychineb Lockerbie 21 Medi 1988 Yr Alban Lockerbie, Yr Alban Ffrwydrodd Pan Am 103 uwchben tref Lockerbie, ar ei daith o Lundain i Efrog Newydd. Bu farw pob un o'r deithwyr a'r criw, yn ogystal ag 11 o bobl ar y ddaear. Cyhuddwyd dau ddyn o Libia, a chafwyd un ohonynt yn euog. Honnir rhai i Muammar al-Gaddafi orchymyn yr ymosodiad. 270 Abdelbaset al-Megrahi
Ffrwydrad Canolfan Masnach y Byd 26 Chwefror 1993 UDA Efrog Newydd, UDA 6 1000+ Ramzi Yousef
Ffrwydradau Mumbai 12 Mawrth 1993 India Mumbai, India Ffrwydrodd 13 o fomiau. Trefnwyd gan Dawood Ibrahim, pennaeth y garfan drosedd D-Company, i ddial am lofruddiaethau Mwslimiaid yn Rhagfyr 1992 ac Ionawr 1993 a chwalu'r Babri Masjid gan dorf Hindŵaidd. 257 713 D-Company Trais grefyddol yn India
Lladdfa Hebron 25 Chwefror 1994 Palesteina Hebron, Y Lan Orllewinol (Palesteina) 29 (+1) 125 Baruch Goldstein Mudiad Kach (Iddewiaeth eithafol)
Ymosodiad sarin Matsumoto 27 Mehefin 1994 Japan Matsumoto, Japan Cafodd y nwy nerfau gwenwynig sarin ei ryddhau o gerbyd tu allan i gyfadeilad gan aelodau'r mudiad crefyddol newydd Aum Shinrikyo. Ymgais oedd hon i ladd tri barnwr oedd yn gweinyddu achos yn erbyn Aum Shinrikyo.[13] 8 ~500 Aum Shinrikyo
Ffrwydrad AIMA 18 Gorffennaf 1994 Yr Ariannin Buenos Aires, Yr Ariannin 85 (+1) 300+
Ymosodiad sarin Tokyo 20 Mawrth 1995 Japan Tokyo, Japan Cafodd bagiau o'r nwy nerfau gwenwynig sarin eu gosod ar reilffordd danddaearol Tokyo gan aelodau'r mudiad crefyddol newydd Aum Shinrikyo.[13] 13 ~ 5500 Aum Shinrikyo
Ffrwydrad Dinas Oklahoma 19 Ebrill 1995 UDA Dinas Oklahoma, UDA Hwn oedd yr ymosodiad terfysgol waethaf yn yr Unol Daleithiau nes ymosodiadau 11 Medi, 2001. Gadawodd Timothy McVeigh cerbyd gyda bom y tu alla i Adeilad Ffederal Alfred P. Murrah. Honodd McVeigh ei fod yn targedu'r llywodraeth i ddial am warchae Waco. 168 500+ Timothy McVeigh a Terry Nichols Mudiad y milisia "Gwladgarol"
Lladdfa Budyonnovsk 14–19 Mehefin 1995 Rwsia Budyonnovsk, Rwsia 140+ 415+
Ffrwydrad Tyrau Khobar 25 Mehefin 1996 Sawdi Arabia Dharhan, Saudi Arabia 19 ~500 Hizballah yn Saudi Arabia
Ffrwydrad Atlanta 27 Gorffennaf 1996 UDA Atlanta, UDA Ffrwydrodd pibfom mewn pac yn Centennial Olympic Park yn ystod Gemau Olympaidd yr Haf 1996 yn Atlanta, Georgia. Bu farw un ac anafwyd 112 o bobl gan y ffrwydrad, a bu farw ffoto-newyddiadurwr o drawiad ar y galon wrth iddo redeg i'r safle. Ym 1998, tybiai'r FBI taw Eric Rudolph, eithafwr oedd yn gwrthwynebu erthyliad, oedd yn gyfrifol. Yn sgil helfa amdano ym Mynyddoedd Appalachia, cafodd ei ddal gan yr heddlu yng Ngogledd Carolina yn 2003. Plediodd yn euog i ymosodiad Atlanta a sawl trosedd arall, ac yn 2005 fe'i ddedfrydwyd i garchar am oes.[14] 2 112 Eric Rudolph Gwrthwynebiad i erthyliad
Lladdfa Luxor 17 Tachwedd 1997 Yr Aifft Luxor, Yr Aifft 62 26+ Grŵp hollt al-Jama'a al-Islamiyya
Ffrwydradau llysgenadaethau UDA 7 Awst 1998 Cenia Nairobi, Cenia
Tansanïa Dar es Salaam, Tansanïa
Ffrwydrodd cerbydau bomiau y tu allan i lysgenadaethau'r Unol Daleithiau ym mhrifdinasoedd Cenia a Thansanïa. 224 4000+ al-Qaeda
Ffrwydrad Omagh 15 Awst 1998 Gogledd Iwerddon Omagh, Gogledd Iwerddon, DU 29 200+ Real IRA
Ffrwydrad y Farchnad Las 13 Mawrth 1999 Twrci Istanbul, Twrci 13 5 PKK Gwrthryfel y Cyrdiaid
Ffrwydradau fflatiau yn Rwsia Medi 1999 Rwsia Buynaksk, Moscfa, a Volgodonsk, Rwsia 293 651

2000–2009

Ymosodiad Dyddiad Lleoliad Manylion Marwolaethau Clwyfedigion Terfysgwr Gwrthdaro neu ideoleg
Ffrwydradau Diwrnod Rizal 30 Rhagfyr 2000 Y Philipinau Manila, Y Philipinau 22 120
Ymosodiadau 11 Medi 2001 11 Medi 2001 UDA Efrog Newydd, Washington, D.C. a Pennsylvania, UDA Cafodd pedair awyren eu hawyrgipio gan 19 o derfysgwyr y garfan al-Qaeda, a wnaethant hedfan dwy ohonynt i mewn i dyrau Canolfan Masnach y Byd (WTC) ac un arall i mewn i'r Pentagon. Ceisiodd y teithwyr ar y bedwaredd awyren i wrthsefyll y terfysgwyr ac fe gwympodd yr awyren i gae yn Pennsylvania. O fewn dwy awr i'r awyren gyntaf taro'r WTC, dymchwelai'r ddau dŵr, gan ladd mwy na 400 o heddweision a diffoddwyr tân yn ogystal â miloedd o bobl yng nghyfadeilad yr WTC. Yr ymosodiadau hyn oedd y sbardun am y Rhyfel yn erbyn Terfysgaeth wrth i'r Unol Daleithiau a'i cynghreiriaid geisio dinistrio'r rhwydwaith Islamaidd terfysgol. Rhoddwyd ffocws arbennig ar Osama bin Laden, arweinydd al-Qaeda, a lansiwyd helfa ryngwladol amdano. Ym mis Hydref, cafodd Affganistan ei goresgynnu gan luoedd UDA ar gyhuddiad o roi lloches i bin Laden. Yn 2003, cafodd Irac hefyd ei goresgynnu yn rhannol oherwydd cysylltiadau honedig rhwng y wlad honno ac al-Qaeda. Parhaodd y ddau ryfel hwnnw i mewn i'r degawd olynol. Cafodd bin Laden ei ladd ym Mhacistan gan luoedd arbennig UDA yn 2011. 2977 (+19) 6000+ al-Qaeda Islamiaeth eithafol
Ffrwydradau Bali 12 Hydref 2002 Indonesia Bali, Indonesia Ffrwydrodd bom mewn pac gan hunanfomiwr yng nghlwb nos Paddy's Bar yn ardal Kuta ar ynys Bali. Symudodd y mynychwyr i mewn i'r stryd, ac yno ffrwydrodd bom car y tu allan i'r Sari Club. Ffrwydrodd bom arall y tu allan i'r gonswliaeth Americanaidd yn Bali, ond ni chafodd unrhywun ei ladd yno. Tramorwyr oedd y mwyafrif o'r meirw, gan gynnwys 88 o Awstralia a 28 o'r DU, a 38 o frodorion Indonesia. Yn ôl neges ar dâp a briodolir i Osama bin Laden, twristiaid Awstralaidd oedd y targed ac roedd yr ymosodiad yn ddial am ran Awstralia yn y Rhyfel yn erbyn Terfysgaeth ac annibyniaeth Dwyrain Timor.[15] Cafwyd tri aelod o Jemaah Islamiyah yn euog o'r trosedd a'u dienyddio yn 2008.[16][17] 202 209 Jemaah Islamiyah
Lladdfa theatr Dubrovka 23–26 Hydref 2002 Rwsia Moscfa, Rwsia 133 (+40) 700+ Riyadus-Saliheen Gwrthryfel Tsietsnia
Ffrwydradau Casablanca 16 Mai 2003 Moroco Casablanca, Moroco Taniodd 14 o aelodau Salafia Jihadia fomiau yng nghanol Casablanca ychydig wedi 9 o'r gloch yr hwyr, ac ymddengys taw tramorwyr ac Iddewon oedd i ddioddef. Pum safle'r ffrwydradau oedd bwyty Sbaenaidd, gwesty, conswliaeth Gwlad Belg, sgwâr cyhoeddus, a chanolfan gymunedol Iddewig. Cafodd porthor y bwyty ei ladd gyda chleddyf cyn i'r ffrwydrad ladd 20 o gwsmeriaid, a bu farw gwarchodwr a phorthor mewn ffrwydrad y gwesty. Mae'n debyg taw bwyty Eidalaidd cyfagos a berchenogir gan Iddew oedd gwir darged y bom a ffrwydrodd tu allan i'r gonswliaeth, gan ladd dau heddwas. Cafodd y bom a darodd y sgwâr ei danio cyn pryd, gan ladd tri dyn yn chwarae cardiau; mae'n debyg taw mynwent Iddewig oedd y targed a fwriedir. Bu farw 12 o'r hunanfomwyr: methodd y ddau arall i danio'u ffrwydron, a chafodd eu harestio. Hanai'r terfysgwyr i gyd o drefi cytiau ar gyrion y ddinas. Hwn oedd yr achos gwaethaf o derfysgaeth yn hanes Moroco.[18][19] 33 (+12) 100+ Salafia Jihadia Gwrthryfel Islamaidd yn y Maghreb
Ffrwydradau Istanbul 15 a 20 Tachwedd 2003 Twrci Istanbul, Twrci 57 700+ Al-Qaeda
Suddo'r SuperFerry 14 27 Chwefror 2004 Y Philipinau Bae Manila, Y Philipinau Suddwyd llong fferi. 116 Abu Sayyaf Gwrthryfel Islamaidd yn y Philipinau
Ffrwydradau trenau Madrid 11 Mawrth 2004 Sbaen Madrid, Sbaen 190 1800+ Al Qaeda
Lladdfa Beslan 1–3 Medi 2004 Rwsia Beslan, Gogledd Ossetia-Alania, Rwsia 354 (+31) ~ 783 Riyad-us Saliheen Gwrthryfel Tsietsnia
Ffrwydradau Llundain 7 Gorffennaf 2005 7 Gorffennaf 2005 Lloegr Llundain, Lloegr 52 (+4) 700
Ffrwydradau Sharm el-Sheikh 2005 23 Gorffennaf 2005 Yr Aifft Sharm El Sheikh, Yr Aifft 88 200+ Brigâd Abdullah Azzam
Ffrwydradau Delhi 29 Hydref 2005 India Delhi, India 62 210 Lashkar-e-Taiba
Ffrwydradau trenau Mumbai 11 Gorffennaf 2006 India Mumbai, India Ffrwydrodd saith bom sosban bwysedd ar Reilffordd y Maestrefi ym Mumbai. Gwnaed gan derfysgwyr Islamaidd i ddial am sefyllfa'r Mwslimiaid yn Gujarat a Kashmir. 209 700+ Lshkar-e-Talba
Ffrwydrad Ankara 2007 22 Mai 2007 Twrci Ankara, Twrci 9 121
Ffrwydradau Qahtaniyah 14 Awst 2007 Irac Qahtaniyah, Irac Targedu cymunedau'r Yazidi 796 1500+ al-Qaeda yn Irac (mae'n debyg) Rhyfel Irac
Ffrwydrad llysgenhadaeth Denmarc yn Islamabad 2 Mehefin 2008 Pacistan Islamabad, Pacistan
Ymosodiad ar lysgenhadaeth yr Unol Daleithiau yn Iemen 17 Medi 2008 Iemen Sana'a, Iemen 19 16 Jihad Islamaidd Yemen
Ymosodiadau Mumbai, 2008 26–29 Tachwedd 2008 India Mumbai, India

2010–2019

Ymosodiad Dyddiad Lleoliad Manylion Marwolaethau Clwyfedigion Terfysgwr Gwrthdaro neu ideoleg
Ymosodiad ar dîm pêl-droed cenedlaethol Togo 8 Ionawr 2010 Angola Cabinda, Angola Saethwyd tri dyn yn farw ar fws tîm pêl-droed cenedlaethol Togo wrth deithio drwy Cabinda ar eu ffordd i Angola am Gwpan Cenhedloedd Affrica. Hawliodd FLEC-PM, cangen filwrol y Ffrynt dros Ryddhad Clofan Cabinda, ei bod yn gyfrifol am yr ymosodiad. 3 9 FLEC-PM Rhyfel Cabinda
Ffrwydradau Metro Moscfa 29 Mawrth 2010 Rwsia Moscfa, Rwsia Chwythodd dwy fenyw eu hunain i fyny ar system fetro Moscfa yn ystod awr frys y bore. Digwyddodd y ffrwydrad cyntaf yng nghorsaf Lubyanka a'r ail yng nghorsaf Park Kultury. Cafodd ymwahanwyr Tsietsniaidd a Mwslimiaid eithafol eu drwgdybio. Deudydd yn hwyrach, hawliodd Dokka Umarov bod ei grŵp Emiriaeth y Cawcasws yn gyfrifol. 40 102 Emiriaeth y Cawcasws Gwrthryfel Tsietsnia
Ymosodiadau Norwy, 2011 22 Gorffennaf 2011 Norwy Oslo a Utøya, Norwy Ffrwydrodd bom car tu allan i swyddfeydd y llywodraeth yn y brifddinas Oslo, gan ladd wyth o bobl. Tua awr a hanner yn ddiweddarach, dechreuodd y bomiwr, Anders Behring Breivik, saethu ar bobl o bob oed mewn gwersyll ieuenctid y Blaid Lafur ar ynys Utøya. Ni chyrhaeddodd yr heddlu yr ynys nes 59 munud wedi'r galwad ffôn cyntaf, pan oedd 68 wedi marw. Bu farw'r olaf yn yr ysbyty ar 29 Gorffennaf. Cafodd Breivik ei arestio, ac er iddo gyfaddef i'r ymosodiadau fe blediodd yn ddi-euog yn y llys. Cyn iddo lofruddio, cyhoeddodd Breivik maniffesto ar y we yn datgan ei wrthwynebiad i Islam a "Marcsiaeth ddiwylliannol" (hynny yw, amlddiwylliannaeth). Cafwyd yn euog yn 2012 a derbyniodd y dedfryd uchaf yn Norwy, 21 mlynedd, a phosibilrwydd cyfnod hirach os yw'n berygl i'r gymdeithas.[20] 77 319 Anders Behring Breivik Gwrthwynebiad i Islam a'r adain chwith
Ffrwydradau Nigeria, Nadolig 2011 25 Rhagfyr 2011 Nigeria Madalla, Jos, Gadaka, a Damaturu, Nigeria Ddydd Nadolig 2011 yn Nigeria, Cristnogion oedd y targed gan eithafwyr Islamaidd Boko Haram. Bu farw 37 mewn ffrwydrad y tu allan i eglwys ym Madalla. Ni chafodd yr un person ei ladd gan ffrwydrad tebyg yn Jos, ond cafodd heddwas ei ladd wrth i ddynion arfog saethu ar bobl. Bu dau ffrwydrad yn Damaturu, un ohonynt gan hunan-fomiwr car ar gonfoi Gwasanaeth Diogelwch y Wladwriaeth a laddodd tri pherson ar wahân i'r bomiwr, a ffrwydrad arall ger eglwys yn nhref Gadaka. 41+ 57+ Boko Haram Gwrthryfel Boko Haram
Argyfwng In Amenas 16 Ionawr 2013 Algeria In Amenas, Algeria 38 (+29) Gwrthryfel Islamaidd yn y Maghreb
Ffrwydradau Marathon Boston 15 Ebrill 2013 Unol Daleithiau America Boston, UDA Ffrwydrodd dau fom o fewn 12 eiliad i'w gilydd ger llinell derfyn Marathon Boston, tua pump awr wedi cychwyn y ras. Bu farw tri, a chafodd nifer o bobl eraill yn y dorf eu hanafu'n ddifrifol a cholli coesau. Tridiau'n ddiweddarach, cafodd heddwas ei saethu'n farw ar gampws MIT a chafodd cerbyd ei gipio a'i yrru i faestref Watertown, Boston. Dilynai'r car a chafwyd ysgarmes rhwng yr heddlu a'r brodyr Tamerlan a Dzhokhar Tsarnaev. Llwyddodd Dzhokhar i ddianc yn y car, ond anafwyd Tamerlan a bu farw yn yr ysbyty ar 19 Ebrill. Cyhoeddid lockdown swyddogol yn y rhan fwyaf o'r ddinas wrth i'r heddlu mynd o ddrws i ddrws yn chwilio am yr ail frawd. Daeth un o drigolion Watertown o hyd i Dzhokhar yn cuddio yn ei gwch yn ei ardd. Cafodd ei arestio, ac yn 2015 cafwyd yn euog o 30 o droseddau'n ymwneud â ffrwydradau'r marathon a'i ddedfrydu i farwolaeth. Islamiaeth eithafol oedd cymhelliad y brodyr Tsarnaev, ond nid oes tystiolaeth o gysylltiadau rhyngddynt a grwpiau terfysgol. Yn hytrach, roeddent wedi "hunan-radicaleiddio".[21] 3 260+ Tamerlan a Dzhokhar Tsarnaev Islamiaeth eithafol
Ffrwydradau Volgograd, Rhagfyr 2013 29–30 Rhagfyr 2013 Rwsia Volgograd, Rwsia
Cyflafan ysgol Peshawar 15 Rhagfyr 2014 Pacistan Peshawar, Pacistan 132 130 Taleban Pacistan
Ymosodiadau Charlie Hebdo 7 Ionawr 2015 Ffrainc Paris, Ffrainc 12 11
Lladdfa Sousse 26 Mehefin 2015 Tiwnisia Sousse, Tiwnisia Cafodd twristiaid eu targedu mewn cyrchfan lan môr ger dinas Sousse gan fyfyriwr Tiwnisaidd, Seifeddine Rezgui, gyda reiffl Kalashnikov. Dechreuodd saethu ar bobl ar y traeth cyn iddo gerdded i mewn i'r gwesty. Cafodd ei saethu'n farw gan yr heddlu tua 40 munud wedi cychwyn y cyflafan. Bu farw 38 o Ewropeaid: 30 o'r DU, 3 o Weriniaeth Iwerddon, 2 o'r Almaen, 1 o Wlad Belg, 1 o Rwsia, ac 1 o Bortiwgal. Anafwyd 39 o bobl: 26 o'r DU, 7 o Diwnisia, 3 o Wlad Belg, 1 o'r Almaen, 1 o Rwsia, ac 1 o'r Wcráin. Hawliai'r ymosodiad gan y Wladwriaeth Islamaidd, ac mae'n debyg i Rezgui gael ei hyfforddi mewn gwersyll ISIL yn Libia.[22] 38 (+1) 39 Seifeddine Rezgui Gwrthryfel ISIL yn Nhiwnisia
Metrojet 9268 31 Hydref 2015 Yr Aifft Gogledd Sinai, Yr Aifft Plymiodd un o awyrennau Airbus A-321 y cwmni Rwsiaidd Metrojet i lawr yn anialwch Sinai, gan ladd pob un o'r teithwyr a'r criw, ar ei thaith o Sharm el-Sheikh i St Petersburg. Yn fuan wedi'r drychineb hawliodd y Wladwriaeth Islamaidd (ISIL) yn Sinai eu bod yn gyfrifol am chwalu'r awyren a bod yr ymosodiad yn ddial am gyrchoedd awyr y Rwsiaid yn Syria. Gwrthodai'r honiad gan y Rwsiaid i gychwyn, a ddatganant taw nid terfysgaeth oedd achos y cwymp.[23] Ar 17 Tachwedd cyhoeddodd llywodraeth Rwsia bod tystiolaeth o ffrwydron bom yn safle'r cwymp ac felly achos o derfysgaeth ydoedd.[24] 224 0 ISIL Rhyfel Cartref Syria
Ymosodiadau ym Mharis, Tachwedd 2015 13 Tachwedd 2015 Ffrainc Paris, Ffrainc 130 350+ Islamiaeth eithafol
Lladdfa Orlando 12 Mehefin 2016 UDA Orlando, UDA Ffoniodd Omar Mateen, Americanwr 29 oed, yr heddlu i ddatgan ei fod yn cefnogi'r Wladwriaeth Islamaidd yn ystod ei ymosodiad ar glwb nos hoyw Pulse yn Orlando, Florida. Roedd tua 320 o bobl yn y clwb ar y pryd. Ar ôl tair awr, llwyddodd yr heddlu i ddwyn cyrch ar yr adeilad a saethu Mateen yn farw. Hwn oedd yr achos waethaf o derfysgaeth yn yr Unol Daleithiau ers 9/11, a'r drosedd waethaf yn erbyn pobl hoyw yn hanes y wlad.[25] Fe'i ystyrir yn enghraifft o derfysgaeth Islamaidd ac yn drosedd casineb, ond wedi'r lladdfa honodd nifer o gymheiriaid Mateen yr oedd ef ei hun yn ddyn hoyw cudd gan awgrymu iddo ddewis ei darged o ganlyniad i'w atalnwyd rhywiol.[26] 49 (+1) 53 Omar Mateen Islamiaeth eithafol, homoffobia (ansicr)
Ymosodiad lori Nice 14 Gorffennaf 2016 Ffrainc Nice, Ffrainc Ar Ddiwrnod y Bastille 2016, cafodd lori ei gyrru'n fwriadol trwy ganol y torfeydd ar hyd y Promenade des Anglais yn ystod dathliadau tân gwyllt. Cafodd yr ymosodwr, dyn o Diwnisia, ei saethu'n farw gan yr heddlu. 86 434 Mohamed Lahouaiej-Bouhlel Islamiaeth eithafol
Ymosodiad lori Berlin 19 Rhagfyr 2016 Yr Almaen Berlin, Yr Almaen Cafodd lori ei gyrru'n fwriadol at dorf mewn marchnad Nadolig y tu allan i Eglwys Kaiser Wilhelm yn Breitscheidplatz, Berlin, gan ladd 11. Yn y lori oedd corff y gyrrwr gwreiddiol, a gafodd ei saethu'n farw gan y derfysgwr pan wnaeth cipio'r cerbyd.[27] Anis Amri, dyn 24 oed o Diwnisia, oedd yn gyfrifol, ac yn hwyrach cyhoeddodd y Wladwriaeth Islamaidd fideo o Amri yn datgan ei ffyddlondeb i'r mudiad hwnnw.[28] Ar ôl helfa ar draws Ewrop, cafodd ei saethu'n farw gan yr heddlu ym Milan yn yr Eidal ar 23 Rhagfyr.[29] 12 65 Anis Amri Islamiaeth eithafol
Ymosodiad clwb nos Istanbul 1 Ionawr 2017 Twrci Istanbul, Twrci Yn oriau mân Dydd Calan 2017, ymosododd dyn arfog ar glwb nos Reina yn Istanbul. Saethodd heddwas a gweithiwr twristiaeth yn farw y tu allan, cyn iddo fynd i mewn i'r clwb a dechrau saethu ar y cannoedd o ddathlwyr, nifer ohonynt yn dramorwyr. Cafodd y weithred ei hawlio drannoeth gan y Wladwriaeth Islamaidd.[30] Cafodd y saethwr honedig ei ddal ar 16 Ionawr: Wsbeciad 34 oed o'r enw Abdulkadir Masharipov.[31] 39 70 Abdulkadir Masharipov (honedig) Islamiaeth eithafol
Ymosodiad Dinas Québec, 2017 29 Ionawr 2017 Canada Dinas Québec, Canada Ar derfyn hwyrol weddi'r mosg yng nghymdogaeth Sainte-Foy, Dinas Québec, dechreuodd Alexandre Bissonnette (myfyriwr Université Laval) saethu ar dorf o ryw hanner cant o addolwyr Mwslimaidd. Yn ôl ei gyfoedion, mae Bissonnette yn genedlaetholwr adain-dde eithafol ac yn gwrthwynebu Islam, ffeministiaeth, a ffoaduriaid.[32] Galwai'r trosedd yn derfysgaeth gan nifer o bobl, gan gynnwys prif weinidogion Canada a Québec, ond mae'n annhebyg bod yr ymosodiad yn cyflawni diffiniad terfysgaeth yn ôl cyfraith Canada.[33] 6 19 Alexandre Bissonnette Gwrthwynebiad i Islam
Ymosodiad Westminster 22 Mawrth 2017 Lloegr Llundain, Lloegr Cafodd car ei yrru'n fwriadol ar hyd y palmant ar Bont Westminster, gan ladd tri pherson ac anafu nifer o gerddwyr, rhai ohonynt yn ddifrifol. Gyrrodd y troseddwr i mewn i Sgwâr y Senedd a cheisiodd cerdded i mewn i Balas San Steffan gyda chyllell. Cafodd heddwas ei drywanu'n farw, cyn i'r llofrudd gael ei saethu gan ddau heddwas arall. Hawliai'r trais gan ISIL. Mae'n debyg i'r llofrudd gael ei ysbrydoli gan bropaganda Islamaidd eithafol, ond nid yw'r heddlu yn sicr o'i union gymhelliad ac nid oes tystiolaeth o gysylltiad â'r un mudiad terfysgol.[34][35] 5 (+1) 40+ Khalid Masood[36][37] Islamiaeth eithafol (ansicr)
Ffrwydrad Metro St Petersburg 3 Ebrill 2017 Rwsia St Petersburg, Rwsia Ffrwydrodd bom ar y lein danddaearol rhwng gorsaf Sennaya Ploshchad a gorsaf Tekhnologichesky Institut ar Metro St Petersburg. Penderfynodd y gyrrwr i barhau i'r orsaf nesaf, yn unol â'r drefn i alluogi'r teithwyr i ddianc.[38] Bu farw 14 o bobl ac anafwyd 49. Yn ôl awdurdodau Rwsia, Akbarzhon Jalilov (dyn 22 oed o Girgistan) oedd y bomiwr, ac roedd hefyd wedi gosod dyfais ar lein arall a fethodd i'w ffrwydro. Bu farw Jalilov ar y trên, ond nid yw'r heddlu'n sicr os hunanfomiwr ydoedd neu wedi ladd ei hunan ar ddamwain pan ffrwydrodd y bom yn ei bac yn gynnar. Nid yw'r cymhelliad yn sicr eto, ond Islamiaeth yw awgrym yr heddlu.[39] 14 49 Akbarzhon Jalilov
Ymosodiad lori Stockholm 7 Ebrill 2017 Sweden Stockholm, Sweden Cafodd lori ei chipio a'i gyrru'n fwriadol i mewn i flaen y siop adrannol Ahlens ar Drottninggatan, un o strydoedd prysuraf Stockholm. Bu farw dau ddinesydd o Sweden, un dyn o Brydain ac un fenyw o Wlad Belg. Arestiwyd Rakhmat Akilov, dyn 39 oed o Wsbecistan, ychydig oriau wedi iddo ffoi o'r safle, ac yn hwyrach fe gyfaddefai i'r ymosodiad. Yn ôl yr heddlu, roedd diddordeb ganddo yn y Wladwriaeth Islamaidd.[40] 4 Rakhmat Akilov[40]
Ffrwydradau eglwysi'r Coptiaid 9 Ebrill 2017 Yr Aifft Alexandria a Tanta, Yr Aifft Ar Sul y Blodau, targedwyd Cristnogion Coptaidd yn addoli mewn ddwy eglwys, yn nhref Tanta ac yn ninas Alexandria. Hawliai'r ymosodiadau gan y Wladwriaeth Islamaidd.[41] 45[42] ISIL Islamiaeth eithafol, gwrth-Gristnogaeth
Ymosodiad Arena Manceinion 22 Mai 2017 Lloegr Manceinion, Lloegr Tua 10:30 yr hwyr, ar ddiwedd cyngerdd gan y gantores Ariana Grande, ffrwydrodd hunanfomiwr yn Arena Manceinion. Lladdwyd 22 o bobl ac anafwyd 59, nifer ohonynt yn blant a phobl yn eu harddegau.[43] 22 (+1) 59 Salman Ramadan Abedi Islamiaeth eithafol
Ymosodiad ar fws o Goptiaid 26 Mai 2017 Yr Aifft Rhaglawiaeth Minya, Yr Aifft Cafodd bws ar ei ffordd i fynachlog yn Rhaglawiaeth Minya ei dargeu gan ddynion arfog mewn mygydau. Roedd y bws yn llawn Cristnogion Coptaidd, gan gynnwys plant. 28 22 ISIL (mae'n debyg)[44] Islamiaeth eithafol, gwrth-Gristnogaeth
Bom car Kabul 31 Mai 2017 Affganistan Kabul, Affganistan Ffrwydrodd bom car ger y llysgenhadaeth Almaenig yn Kabul, prifddinas Affganistan, yn ystod yr awr frys. Bu farw mwy na 100 o bobl ac anfwyd bron 500. Yn ôl yr NDS, asiantaeth diogelwch y wlad, rhwydwaith Haqqani oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad.[45] 100+ 450+ Rhwydwaith Haqqani Islamiaeth eithafol
Ymosodiad Pont Llundain 3 Mehefin 2017 Lloegr Llundain, Lloegr Am ddwy funud i ddeg o'r gloch ar nos Sadwrn, cafodd lori ei yrru at gerddwyr ar hyd Bont Llundain. Neidiodd tri dyn o'r lori a thrywanu pobl gyda chyllyll yn Borough Market. Yn ôl tystion, gweiddodd yr ymosodwyr eu bod yn gwneud hynny "am Allah". Cafodd y tri dyn eu saethu'n farw gan yr heddlu o fewn wyth munud i'r galwad cyntaf i'r gwasanaethau brys.[46] 8[47] 48 Islamiaeth eithafol
Ymosodiadau Tehran 7 Mehefin 2017 Iran Tehran, Iran Ymosododd dynion arfog ar adeilad Senedd Iran a beddrod yr Aiatola Ruhollah Khomeini yn Tehran, prifddinas Iran, a ffrwydrodd hunanfomiwr hefyd ger y beddrod. Datganodd yr awdurdodau eu bod wedi atal trydydd ymosodiad.[48] 12 ~40
Ymosodiad Barcelona 17 Awst 2017 Sbaen Barcelona, Sbaen Tua pump o'r gloch y prynhawn, gyrrodd fan i ganol y tyrfaoedd ar La Rambla, stryd brysuraf Barcelona. 13 100+ Islamiaeth eithafol
Ymosodiad Efrog Newydd 31 Hydref 2017 UDA Dinas Efrog Newydd, UDA 8 Sayfullo Habibullaevic Saipov[49]
Ymosodiad Carcassone a Trèbes 23 Mawrth 2018 Ffrainc Carcassonne a Trèbes, Ffrainc Cafodd car ei ddwyn gan Redouane Lakdim, Ffrancwr 25 oed a aned ym Moroco, ar gyrion dinas Carcassonne yn ne Ffrainc, gan ladd y teithiwr. Gyrodd i farics yr heddlu, a dechreuodd saethu ar swyddogion oedd yn loncian, gan anafu un heddwas ond heb ladd yr un ohonynt. Yna fe aeth i dref Trèbes a dal pobl yn wystlon mewn archfarchnad. Cafodd dau eu saethu'n farw ganddo. Galwodd yr ymosodwr am ryddhau Salah Abdeslam, sydd wedi ei gyhuddo o gefnogi'r ymosodiadau ym Mharis yn Nhachwedd 2015. Cytunodd Lakdim i gyfnewid gwystl am heddwas, Arnaud Beltrame, a gafodd ei saethu rhyw tair awr yn ddiwedddarach. Ymosododd yr heddlu ar Lakdim a'i saethu'n farw. Bu farw Beltrame o'i anafiadau yn yr ysbyty.[50] 4 (+1) ~15 Redouane Lakdim Islamiaeth eithafol
Cyflafan Christchurch 15 Mawrth 2019 Seland Newydd Christchurch, Seland Newydd Saethwyd 50 o bobl yn farw, Mwslimiaid oll, gan ymosodwr mewn dau fosg yn Christchurch, Seland Newydd. 50 ~50 Brenton Tarrant (wedi ei gyhuddo) Gwrth-Islamiaeth

2020–2029

Ymosodiad Dyddiad Lleoliad Manylion Marwolaethau Clwyfedigion Terfysgwr Gwrthdaro neu ideoleg
Ymosodiadau Fienna 2020 2 Tachwedd 2010 Awstria Fienna Awstria Agorodd un gwn ar dân mewn sawl lleoliad, ger y synagog Stadttempel.[51] 4 23 Kujtim Fejzullai Islamiaeth

Cyfeiriadau

  1. (Saesneg) Barcelona, 1893-1897, International Institute of Social History. Adalwyd ar 31 Mawrth 2017.
  2. (Saesneg) 16th Street Baptist Church bombing. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 14 Mawrth 2017.
  3. (Saesneg) Convair CV-990-30A-6 Coronado HB-ICD Würenlingen, Aviation Safety Network. Adalwyd ar 26 Chwefror 2017.
  4. (Almaeneg) «We are crashing - goodbye everybody», 20 Minuten (19 Chwefror 2010). Adalwyd ar 26 Mawrth 2017.
  5. (Saesneg) 1972: Japanese kill 26 at Tel Aviv airport, BBC. Adalwyd ar 26 Mawrth 2017.
  6. (Saesneg) 2 killed by bomb at Antwerp synagogue, The New York Times (21 Hydref 1981). Adalwyd ar 26 Mawrth 2017.
  7. (Saesneg) Palestinian guerrillas claim synagogue bombing, UPI (21 Hydref 1981). Adalwyd ar 26 Mawrth 2017.
  8. 8.0 8.1 (Saesneg) Jewish targets: recent attacks, The New York Times (7 Medi 1986). Adalwyd ar 26 Mawrth 2017.
  9. (Saesneg) Flashback: April 18, 1983: U.S. Embassy Attacked in Beirut Archifwyd 2017-03-07 yn y Peiriant Wayback, CIA. Adalwyd ar 26 Mawrth 2017.
  10. (Saesneg) Robert Dillon - Beirut 1983 Archifwyd 2017-04-15 yn y Peiriant Wayback, A Brief History of U.S. Diplomacy. Adalwyd ar 26 Mawrth 2017.
  11. (Saesneg) U.S. Beirut embassy bombed; 33 reported killed; 80 hurt; pro-Iran sect admits action, The New York Times (19 Ebrill 1983). Adalwyd ar 26 Mawrth 2017.
  12. (Saesneg) Air India Flight 182 disaster. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 26 Mawrth 2017.
  13. 13.0 13.1 (Saesneg) Tokyo subway attack of 1995. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 29 Mawrth 2017.
  14. (Saesneg) Atlanta Olympic Games bombing of 1996. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 29 Mawrth 2017.
  15. (Saesneg) 'Bin Laden' voices new threat to Australia, The Age (14 Tachwedd 2002). Adalwyd ar 24 Mawrth 2017.
  16. (Saesneg) 2002 Babli Bombings. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 24 Mawrth 2017.
  17. (Saesneg) The 12 October 2002 Bali bombing plot, BBC (11 Hydref 2002). Adalwyd ar 24 Mawrth 2017.
  18. (Saesneg) Analysis: May 16, 2003 Suicide Bombings in Casablanca, Morocco, The Center for Policing Terrorism. Adalwyd ar 29 Mawrth 2017.
  19. (Saesneg) Morocco: Two bombers talking to police Archifwyd 2020-09-28 yn y Peiriant Wayback, CNN (19 Mai 2003). Adalwyd ar 29 Mawrth 2017.
  20. (Saesneg) Oslo and Utøya attacks of 2011. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 29 Mawrth 2017.
  21. (Saesneg) Boston Marathon bombing of 2013. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 29 Mawrth 2017.
  22. (Saesneg) Tunisia attack: What happened, BBC (1 Chwefror 2017). Adalwyd ar 28 Mawrth 2017.
  23. (Saesneg) Sinai plane crash: How tragedy unfolded, BBC (31 Hydref 2015). Adalwyd ar 15 Mawrth 2017.
  24. (Saesneg) Russia plane crash: 'Terror act' downed A321 over Egypt's Sinai, BBC (17 Tachwedd 2015). Adalwyd ar 15 Mawrth 2017.
  25. (Saesneg) Orlando Gunman Attacks Gay Nightclub, Leaving 50 Dead, The New York Times (12 Mehefin 2016). Adalwyd ar 15 Mawrth 2017.
  26. (Saesneg) Orlando shooting: Gunman Omar Mateen was a closet homosexual, say friends - as wife faces charges after 'helping him scope out attack', The Daily Telegraph (15 Mehefin 2016). Adalwyd ar 15 Mawrth 2017.
  27. Berlin: Canghellor yr Almaen yn ymweld â safle ymosodiad, Golwg360 (20 Rhagfyr 2016). Adalwyd ar 15 Mawrth 2017.
  28. (Saesneg) Berlin attack suspect pledged allegiance to Isis in video – live coverage, The Guardian (23 Rhagfyr 2016). Adalwyd ar 15 Mawrth 2017.
  29. Saethu brawychwr Berlin yn farw, Golwg360 (23 Rhagfyr 2016). Adalwyd ar 15 Mawrth 2017.
  30. IS yn hawlio cyfrifoldeb am ladd mewn clwb nos, Golwg360 (2 Ionawr 2017). Adalwyd ar 15 Mawrth 2017.
  31. (Saesneg) Rengin Arslan. Abdulkadir Masharipov: Who is Istanbul gun attack suspect?, BBC (17 Ionawr 2017). Adalwyd ar 15 Mawrth 2017.
  32. (Saesneg) Quebec City mosque attack suspect known as online troll inspired by French far-right, The Globe and Mail' (30 Ionawr 2017). Adalwyd ar 11 Ebrill 2017.
  33. (Saesneg) Why accused in Quebec City mosque shooting isn't likely to face terrorism charges, CBC (1 Chwefror 2017). Adalwyd ar 11 Ebrill 2017.
  34. (Saesneg) Westminster attacker acted alone and motive may never be known, say police, The Observer (25 Mawrth 2017). Adalwyd ar 11 Ebrill 2017.
  35. (Saesneg) London attacker's motive still a mystery, U.K. police say, The Globe and Mail (26 Mawrth 2017). Adalwyd ar 11 Ebrill 2017.
  36. Khalid Masood, “milwr IS” 52 oed, oedd ymosodwr Llundain, Golwg360 (23 Mawrth 2017). Adalwyd ar 23 Mawrth 2017.
  37. (Saesneg) London attack: Khalid Masood identified as killer, BBC (23 Mawrth 2017). Adalwyd ar 23 Mawrth 2017.
  38. (Saesneg) St Petersburg metro bomb victims identified, BBC (4 Ebrill 2017). Adalwyd ar 11 Ebrill 2017.
  39. (Saesneg) St Petersburg metro bomber 'from Kyrgyzstan', BBC (4 Ebrill 2017). Adalwyd ar 11 Ebrill 2017.
  40. 40.0 40.1 (Saesneg) Stockholm suspect 'admits truck attack', BBC (11 Ebrill 2017). Adalwyd ar 11 Ebrill 2017.
  41. (Saesneg) Egypt declares state of emergency after deadly church attacks, BBC (9 Ebrill 2017). Adalwyd ar 10 Ebrill 2017.
  42. (Saesneg) Egypt Cabinet OKs state of emergency after Palm Sunday church bombings, CNN (11 Ebrill 2017). Adalwyd ar 28 Mai 2017.
  43. Theresa May: Ymosodiad Manceinion “wedi’i dargedu’n fwriadol at bobl ifanc”, Golwg360 (23 Mai 2017). Adalwyd ar 23 Mai 2017.
  44. Lladd 28 o Gristnogion yn yr Aifft, Golwg360 (26 Mai 2017). Adalwyd ar 28 Mai 2017.
  45. (Saesneg) Kabul bombing: Afghans blame Haqqani network and Pakistan, Sky News (31 Mai 2017). Adalwyd ar 3 Mehefin 2017.
  46. (Saesneg) London attack: What we know so far, BBC (5 Mehefin 2017). Adalwyd ar 5 Mehefin 2017.
  47. Ymosodiadau brawychol Llundain: canfod wythfed corff yn afon Tafwys, Golwg360 (7 Mehefin 2017). Adalwyd ar 7 Mehefin 2017.
  48. (Saesneg) Iran attacks: Parliament and Khomeini mausoleum targeted, BBC (7 Mehefin 2017). Adalwyd ar 7 Mehefin 2017.
  49. (Saesneg) Note found near truck claims Manhattan attack done for ISIS, source says, CNN (6 Tachwedd 2017). Adalwyd ar 23 Tachwedd 2017.
  50. (Saesneg) "Arnaud Beltrame: France lauds policeman who swapped with hostage", BBC (24 Mawrth 2018). Adalwyd ar 24 Mawrth 2018.
  51. Hruby, Denise; Morris, Loveday; Beck, Luisa (3 Tachwedd 2020). "Vienna gun attack by Islamic State sympathizer shatters an evening of revelry". The Washington Post. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Tachwedd 2020.