Richard Pennant, Barwn 1af Penrhyn
Richard Pennant, Barwn 1af Penrhyn | |
---|---|
Ganwyd | 1737 (yn y Calendr Iwliaidd) Gwynedd |
Bu farw | 21 Ionawr 1808 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwleidydd, person busnes |
Swydd | Aelod o 12fed Senedd Prydain Fawr, Aelod o 13eg Senedd Prydain Fawr, Aelod o 14eg Senedd Prydain Fawr, Aelod o 16eg Senedd Prydain Fawr |
Tad | John Pennant |
Mam | Bonella Hodges |
Priod | Anne Susannah Warburton |
Roedd Richard Pennant, Barwn 1af Penrhyn (1737 - 21 Ionawr 1808) yn dirfeddiannwr, perchennog caethweision a'r gŵr cyntaf i ddatblygu diwydiant llechi Cymru ar raddfa fawr pan gychwynodd Chwarel y Penrhyn.[1]
Bywgraffiad
Roedd y Pennantiaid o gyff Pennantiaid Bychtwn a Downing yn Sir Fflint. Bu Richard Pennant yn Aelod Seneddol dros Peterfield yn Lloegr o 1761 hyd 1767, yna'n un o Aelodau Seneddol Lerpwl 1767-1780, ac eto o 1784 hyd 1790, pan ildiodd ei sedd i Syr Banastre Tarleton, oedd fel Pennant yn bleidiol i gaethwasiaeth. Yn 1796 ceisiodd am sedd Sir Gaernarfon, ond curwyd ef gan Syr Robert Williams. Yn 1783 crewyd ef yn Farwn 1af Penrhyn yn Swydd Louth yn Iwerddon.[1]
Roedd teulu Pennant yn berchen tiroedd helaeth yn Jamaica, ac yn 1765 priododd Ann Susannah Warburton, aeres teulu Warburton, oedd wedi etifeddu hanner stad y Penrhyn. Yn 1785 prynodd yr hanner arall o'r stad oddi wrth deulu Yonge. Datblygodd Chwarel y Penrhyn i fod y chwarel fwyaf yng Nghymru. Ef oedd y meistr tir cyntaf yng Nghymru i redeg y busnes llechi ei hun, yn hytrach na chymeryd rhent gan bartneriaethau o chwarelwyr. Yn 1798 agorodd Dramffordd Llandegai i gario llechi o’r chwarel i borthladd newydd Porth Penrhyn gerllaw Bangor. Yn 1801 agorodd reilffordd i gymeryd lle'r dramffordd, Rheilffordd Chwarel y Penrhyn, un o’r rheilffyrdd cynharaf.[1]
Dilynwyd ef gan ei gefnder, George Hay Dawkins (1763-1840). Enwyd merch Dawkins, Juliana, a'i gŵr fel cyd-etifeddion yr ystad ar yr amod eu bod yn cymryd y cyfenw Pennant. Yn ddiweddarach daeth gŵr Juliana yn Farwn Penrhyn fel Edward Gordon Douglas-Pennant.[1]