Richard Lynch

Richard Lynch
GanwydRhagfyr 1965 Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor, actor teledu Edit this on Wikidata

Actor ffilm-a-theledu o Gymru yw Richard Lynch (ganwyd Rhagfyr 1965[1]) sydd yn fwyaf adnabyddus am chwarae'r cymeriad Garry Monk[2][3] yn opera sebon Pobol y Cwm.

Bywgraffiad

Ganwyd Lynch ym Medwas ac fe aeth i Ysgol Gyfun Rhydfelen, ger Pontypridd. Graddiodd mewn Drama o Brifysgol Aberystwyth yn 1987.[4]

Gyrfa

Daeth Lynch i amlygrwydd yn gyntaf yn 1986 wrth chwarae rhan y milwr ifanc Will Thomas yn y ffilm Milwr Bychan gan Karl Francis.[5][6] Wedi hyn ymddangosodd mewn rhagor o ffilmiau yn cynnwys Branwen (1994), Darklands (1996), The Proposition (1997), a Y Mabinogi (2003).[7] Mae Lynch wedi serennu mewn nifer o gynyrchiadau a chyfresi teledu yn cynnwys The Christmas Stallion (1992), The Lifeboat (1994), a Tales from Pleasure Beach (2001).[7]

Ffilmyddiaeth

  • Milwr Bychan (1986)
  • The District Nurse (Cyfres deledu 1987)
  • Eight Men Out (1988)
  • Spirit (1989)
  • Screen One (Cyfres deledu 1989)
  • The Christmas Stallion (Ffilm deledu 1992)
  • Thicker Than Water (Ffilm deledu 1994)
  • The Healer (Ffilm deledu 1994)
  • The Lifeboat (Cyfres deledu 1994)
  • Branwen (1995)
  • Darklands (1996)
  • The Proposition (1997)
  • Dangerfield (Cyfres deledu 1999)
  • Score (Ffilm deledu 2001)
  • Tales from Pleasure Beach (Cyfres deledu fer 2001)
  • A Mind to Kill (Cyfres deledu 1997-2002)
  • Y Mabinogi  (2003)
  • Secret History of Religion: Knights Templar (Ffilm deledu 2006)

Cyfeiriadau

  1. Ty'r Cwmniau; Adalwyd 2015-12-30
  2. "Pobol Y Cwm Characters". BBC. 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-05-08. Cyrchwyd 2011-02-26.
  3. "Don't mind your Ps and Qs: Richard Lynch". Wales Online (Western Mail). 2010-10-27. Cyrchwyd 2011-02-26.
  4. Urddo’r actor Richard Lynch, Prifysgol Aberystwyth; Adalwyd 2015-12-30
  5. "Milwr Bychan". IMDb. Cyrchwyd 2010-03-27.
  6. "Milwr Bychan/Boy Soldier". Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales. 2008. Cyrchwyd 2010-03-27.
  7. 7.0 7.1 "Richard Lynch (II)". IMDb. Cyrchwyd 2010-03-27.

Dolenni allanol