Robert Roberts (Silyn)
R. Silyn Roberts | |
---|---|
Ffugenw | Silyn Roberts ![]() |
Ganwyd | 28 Mawrth 1871 ![]() Llanllyfni ![]() |
Bu farw | 13 Awst 1930 ![]() Bangor ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd ![]() |
Perthnasau | Mathonwy Hughes ![]() |
llofnod | |
![]() |
Bardd, sosialydd a diwygiwr cymdeithasol o Gymru oedd Robert "Silyn" Roberts (28 Mawrth 1871 – 15 Awst 1930), a aned ger Llanllyfni yn yr hen Sir Gaernarfon..
Cefndir
Ar ôl cyfnod o weithio fel chwarelwr aeth Silyn i astudio am ei radd yng Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor ac yna i astudio ar gyfer y weinidogaeth yng Ngholeg Diwinyddol Y Bala.
Pan oedd e'n byw yn Llundain yn y 1900au daeth Silyn yn gyfaill i Lenin.[1]
Treuliodd y cyfnod 1905 - 1912 yn weinidog yn Nhan-y-grisiau, ger Blaenau Ffestiniog.
Credai'n gryf mewn sosialaeth a chefnogai'r Blaid Lafur Annibynnol. Sefydlodd gangen Gogledd Cymru o Gymdeithas Addysg y Gweithwyr yn 1925.
Bu'n weithgar hefyd gyda Cylch Dewi - cymdeithas yn ymgyrchu dros defnydd o'r Gymraeg ym myd addysg a chymdeithas a'r radio.
Gwaith llenyddol
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/b/bc/Coron_Eisteddfod_Genedlaethol_1902.jpg/250px-Coron_Eisteddfod_Genedlaethol_1902.jpg)
Gyda'i gyfaill W.J. Gruffydd, cymerodd ran flaenllaw yn y farddoniaeth delynegol newydd ar ddechrau'r 20g. Uchafbwynt eu cydweithrediad oedd cyhoeddi'r gyfrol Telynegion ar y cyd yn 1900. Enillodd Silyn y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bangor 1902 gyda phryddest ar y testun Trystan ac Esyllt.
Fel yn achos W.J. Gruffydd, nodweddir barddoniaeth Silyn gan ei delfrydiaeth a'i rhamantiaeth delynegol.
Bywyd personol
Priododd Mary Parry.[2]
Llyfryddiaeth
![]() |
Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
Gwaith Silyn
- (gyda W.J. Gruffydd), Telynegion (1900)
- Trystan ac Esyllt a Chaniadau Eraill (1904)
- Gwyntoedd Croesion (1924). Cyfieithiad.
- Bugail Geifr Lorraine (1925). Cyfieithiad o'r nofel Ffrangeg gan Émile Souvestre.[3]
- Cofarwydd (1930). Detholiad o'i gerddi a gyhoeddwyd wedi ei farwolaeth.
- Llio Plas y Nos (1945). Nofel a gyhoeddwyd wedi ei farwolaeth.[4]
Bywgraffiad
Ceir bywgraffiad iddo gan David Thomas (1956).
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
- ↑ Silyn (Robert Silyn Roberts) 1871-1930 gan David Thomas, Gwasg y Brython, 1956.
- ↑ https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/48308395
- ↑ Roberts, R Silyn (1925). . Wrecsam: Hughes a'i Fab.
- ↑ Roberts, Robert Silyn (1945). . Dinbych: Thomas Gee.