SEAT
Math | cynhyrchydd cerbydau |
---|---|
Diwydiant | Diwydiant ceir |
Sefydlwyd | 9 Mai 1950 |
Sefydlydd | Instituto Nacional de Industria |
Pencadlys | Martorell |
Pobl allweddol | (Prif Weithredwr) |
Cynnyrch | car |
Refeniw | 8,784,000,000 Ewro (2020) |
Perchnogion | Volkswagen AG |
Nifer a gyflogir | 14,752 (2020) |
Rhiant-gwmni | Volkswagen AG |
Is gwmni/au | Cupra |
Gwefan | https://www.seat.com/ |
Gwneuthurwr ceir Sbaenaidd ydy SEAT, a sefydlwyd ym 1950 gan yr Instituto Nacional de Industria (INI), gyda chymorth gan Fiat, mae erbyn hyn yn un o is-gwmniau Grŵp Volkswagen, sy'n grŵp Almaenig (gydag Audi a Lamborghini).[1] Lleolir pencadlys SEAT ym Martorell ger Barcelona, Catalwnia.[2] Mae'r enw SEAT yn acronym o Sociedad Española de Automóviles de Turismo (Cymraeg: Cwmni Ceir Teithiol Sbaenaidd).
Erbyn 2000 roedd SEAT yn cynhyrchu dros 500,000 uned y flwyddyn; hyd at 2006 roeddent wedi cynhyrchu cyfanswm o 16 miliwn o geir,[3] gan gynnwys dros 6 miliwn o'r ffatri ym Martorell, ac roedd tri-chwarter eu cynhyrchiad blynyddol yn cael ei allforio i saith gwlad dramor.[4]
Hanes
Cychwynnodd SEAT gan gynhyrchu ceir o fodelau Fiat ond wedi eu hail-fathodynnu, gan amrywio ychydig yn weledol ar gynnyrch y rhiant-gwmni Eidalaidd. Roedd hyn yn cynnwys y SEAT Panda (a ailenwyd yn ddiweddarach yn SEAT Marbella), a oedd yn seiliedig ar y Fiat Panda. Daeth y SEAT 600, a oedd yn seiliedig ar y Fiat 600, yn gar cyntaf ar gyfer nifer o deuluoedd Sbaenaidd, gan ddod yn symbol o'r Gwyrth Sbaenaidd.
Erbyn 1967, SEAT oedd gwneuthurwr ceir mwyaf Sbaen. Yn ystod y flwyddyn honno, roedd Fiat wedi cynyddu eu cyfran yn y cwmni o 6% i 36%. Yr un adeg, lleihaodd cyfran yr Instituto Nacional de Industria eu cyfran rheoli - o 51%, i 32%. Prynwyd y cyfran a oedd yn weddill (32%) gan chwe phrif fanc. Er nad oedd Fiat yn berchennog gyda chyfran reoli, cysidrwyd mai hwy oedd yn rheoli'r cwmni: roedd y cytundeb hefyd yn cynnwys addewid gan Fiat i helpu twf SEAT, a datblygiad model newydd (y SEAT 133 o bosibl).[5]
Yn ystod y cyfnod a ddilynodd, parhaodd y gwneuthurwr i ddomeiddio'r farchnad ceir yn Sbaen, gan gynhyrchu dros 282,698 o geir, mwy na 58% o'r cyfanswm a gynhyrchwyd yn Sbaen, yn 1971 er gwaethaf yr aflonyddwch y flwyddyn honno a achoswyd gan streiciau a llifogydd difrifol yn y gwaith a leolwyd ar yr arfordir ym Marcelona.[6] Ond gyda dim ond 81 o geir i pob mil o bobl yn Sbaen, cysidrwyd fod digonedd o le i ymestyn ymhellach a bu SEAT yn wynebu'r bygythiad o gynnydd yn y gystadleuaeth, gan y bu gwneuthurwyr eraill mawr yn ystyried sefydlu neu ehangu eu cynhyrchiad yn y farchnad Sbaenaidd, a oedd yn parhau i gael ei amddiffyn yn gryf.[6]
-
SEAT 1400 B; 1953
-
SEAT 600; 1966
-
Seat 850 Sport Coupé; 1968-1971)
-
SEAT Ibiza Mk1.; 1984
-
Seat Cupra GT; 2011
Yn ystod yr 1980au cynnar, bu trafodaethau helaeth ynglŷn ag ariannu a rheolaeth y cwmni, rhwng y prif cyfranddaliwr, sef llywodraeth Sbaen, a Fiat: roedd SEAT angen buddsoddiad cyfalaf mawr ond nid oedd Fiat yn fodlon gwneud y buddsoddiad hwn. Ym 1982, daeth y berthynas rhwng Fiat a SEAT i ben wedi dros 30 mlynedd. Y SEAT Ronda oedd y car newydd cyntaf i gael ei gynhyrchu gyda bathodyn newydd SEAT heb ymglymiad Fiat ym 1982. Roed hwn yn fersiwn o'r Fiat Ritmo ond wedi ei ail-steilio, ac achosodd hyn i Fiat gychwynachos cyfreithiol yn erbyn SEAT, gan eu bod yn honni ei fod yn llawer rhy debyg i'r Ritmo. Er mwyn dod a'r ddadl i ben, dangosodd llywydd SEAT, Juan Miguel Antoñanzas, gar Ronda i'r wasg gyda'r holl ddarnau a oedd yn wahanol i'r Rimto wedi eu paentio mewn melyn llachar er mwyn tynnu sylw at y gwahaniaethau. Bu sôn ar y pryd mai'r rheswm fu Fiat mor flin, oedd gan fod dyluniad y Ronda yn debyg iawn i'r ail-steilio roeddent wedi bwriadu ei gynhyrchu ar gyfer y Fiat Ritmo, a bu'n rhaid iddynt ei sgrapio.
Ychydig flynyddoedd wedi i Fiat dynnu allan o'r cwmni, arwyddodd Audi AG, un o is-gwmnïau Grŵp Volkswagen, gytundeb i gydweithredu gyda SEAT, gan ddod yn gyfranddaliwr mawr ym 1986, ac yn berchennog ar 100% o'r cwmni ym 1990. Yn ystod canol y 2000au, trosglwyddwyd perchnogaeth SEAT o'r is-gwmni Audi AG, fel ei bod yn is-gwmni uniongyrchol i'r cwmni daliad Volkswagen AG.
Dewis modelau
Modelau cynnar
- SEAT 600|600/800
- SEAT 850|850
- SEAT 1200 Sport|1200 Sport
- SEAT 1400|1400
- SEAT 1430|1430
- SEAT 1500|1500
- SEAT 124|124
- SEAT 127|127
- SEAT 128|128
- SEAT 131|131
- SEAT 132|132
- SEAT 133|133
- SEAT Fura|Fura
- SEAT Panda|Panda
- SEAT Ritmo|Ritmo
- SEAT Ronda|Ronda
- SEAT Terra|Terra
- SEAT Inca|Inca
- SEAT Málaga|Málaga
- SEAT Marbella|Marbella
- SEAT Arosa|Arosa
- SEAT Córdoba|Córdoba
- SEAT Toledo|Toledo
Modelau cyfredol
Enwir y modelau cyfredol ar ôl enwau llefydd Sbaenaidd fel rheol.
- Ibiza/Ibiza SC
- León
- Altea/Altea XL/Altea Freetrack
- Exeo/Exeo ST
- Alhambra
Modelau cysyniadol
- SEAT Proto|Proto T (1989) & C , TL (1990)
- SEAT Concepto T|Concepto T (1992) & Cabrio (1993)
- SEAT Bolero|Bolero (1998)
- SEAT Formula|Formula (2000)
- SEAT Salsa|Salsa/Salsa Emoción (2000)
- SEAT Tango|Tango/Tango Racer (2001)
- Seat Cupra GT|Cupra GT (2003 )
- SEAT Altea Freetrack|Altea Freetrack prototeip (2007)
- SEAT Tribu|Tribu prototype (2007)
- SEAT Bocanegra|Bocanegra (2008)
- SEAT León Twin drive|León Twin drive 2009)
Cyfeiriadau
- ↑ "Company History 1979–1950". SEAT.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-12-06. Cyrchwyd 2010-03-09.
- ↑ "Volkswagen Group Audi Brand Group". Volkswagenag.com. Cyrchwyd 2012-02-05.[dolen marw]
- ↑ "SEAT produces car number 16 million since its beginnings". Media.seat.com. 2008-01-25. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-07-19. Cyrchwyd 2010-03-08.
- ↑ "SEAT is exporting approximately 75% of its production to 72 countries". Seat.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-12-06. Cyrchwyd 2012-02-05.
- ↑ (26 Ionawr 1967) News and Views: Fiat control Seat, Cyfrol 126, Rhifyn 3702. Autocar, tud. 46
- ↑ 6.0 6.1 Charles Bulmer (gol.) (22 Ebrill 1972). Motorweek: Car losses hit SEAT, Rhifyn 3640. The Motor, tud. 56
Dolenni allanol
- SEAT.com
- SEAT Sport UK Archifwyd 2004-05-22 yn y Peiriant Wayback.