Safleodd y Byd FIFA
![]() | |||
Y 20 Safle Uchaf ar 1 Hydref 2015[1] | |||
Safle | Tîm | Pwyntiau | |
---|---|---|---|
1 | ![]() |
1419 | |
2 | ![]() |
1401 | |
3 | ![]() |
1387 | |
4 | ![]() |
1235 | |
5 | ![]() |
1228 | |
6 | ![]() |
1223 | |
7 | ![]() |
1204 | |
8 | ![]() |
1195 | |
9 | ![]() |
1177 | |
10 | ![]() |
1161 | |
11 | ![]() |
1100 | |
12 | ![]() |
1044 | |
13 | ![]() |
1042 | |
14 | ![]() |
1004 | |
15 | ![]() |
983 | |
16 | ![]() |
965 | |
17 | ![]() |
962 | |
18 | ![]() |
936 | |
19 | ![]() |
927 | |
20 | ![]() |
919 | |
Rhestr Safleoedd Cyflawn ar Fifa.com Archifwyd 2014-10-30 yn y Peiriant Wayback |
Sustem safleoedd ar gyfer timau pêl-droed dynion ar lefel cenedlaethol yw Safleoedd y Byd FIFA. Fe drefnir safleoedd y timau sy'n aelodau o genhedloedd FIFA - corff rheoleiddio pêl-droed y Byd - yn seliedig ar ganlyniadau eu gemau, gyda'r timau mwyaf llwyddiannus yn cyrraedd y safleoedd uchaf. Cyflwynwyd y sustem ym mis Rhagfyr 1992, ac y mae saith tîm (Yr Almaen, Yr Ariannin, Brasil, Yr Eidal, Ffrainc, Yr Iseldiroedd a Sbaen) wedi treulio amser ar frîg y rhestr. O'r rhain, Brasil sydd wedi treulio'r amser hiraf yn y safle uchaf. Ar hyn o bryd, Yr Ariannin sydd yn y safle 1af yn Safleoedd y Byd FIFA[2]. Llwyddodd Cymru i gyrraedd y deg uchaf yn Safleoedd y Byd FIFA am y tro cyntaf pan gyrrhaeddasant y 10fed safle yn y Byd ar 9fed Gorffennaf 2015[3].
Ar 3 Medi 2015, fe gododd Cymru yn uwch na thîm pêl-droed cenedlaethol Lloegr yn rhestr safleoedd FIFA am y tro cyntaf[4].
Ar 1 Hydref 2015, cododd Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru i'w safle uchaf erioed ar restr detholion y Byd pan gyrhaeddasant yr 8fed safle.[5][6]
Dull cyfrifo cyfredol
Ystyrir y ffactorau canlynol tra'n cyfrifo pwyntiau pob tîm a ddefnyddir i briodoli safle'r timau[7].:
- Canlyniad gêm
- Statws gêm
- Cryfder gwrthwynebwyr
- Cryfder rhanbarthol
Mae sgor tîm yn cael ei gyfrifo o gyfartaledd y pwyntiau a enillwyd dros gyfnod o flwyddyn calendr, gyda chanlyniadau gemau dros y bedair mlynedd flaenorol yn cael eu hystyried, a'r pwyslais mwyaf yn cael ei roi ar y canlyniadau mwyaf diweddar.
Cyfeiriadau
- ↑ "The FIFA/Coca-Cola World Ranking - Ranking Table". FIFA. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-09-14. Cyrchwyd 3 Medi 2015.
- ↑ "Safleoedd FIFA". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-06-26. Cyrchwyd 2015-07-04.
- ↑ Gwefan BBC Cymru
- ↑ Gwefan Golwg360
- ↑ Cymdeithas Pêl-Droed Cymru[dolen farw]
- ↑ BBC Cymru
- ↑ [ http://www.fifa.com/fifa-world-ranking/procedure/men.html/ Archifwyd 2015-07-13 yn y Peiriant Wayback Gwefan FIFA]