Samuel Johnson
Samuel Johnson | |
---|---|
Portread Dr Johnson (tua 1772) gan Joshua Reynolds | |
Ganwyd | 18 Medi 1709 Caerlwytgoed |
Bu farw | 13 Rhagfyr 1784 Llundain |
Addysg | Meistr yn y Celfyddydau |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | geiriadurwr, bardd, ysgrifennwr, gwleidydd, cyfieithydd, llyfrwerthwr |
Adnabyddus am | A Dictionary of the English Language |
Tad | Michael Johnson |
Mam | Sarah Ford |
Priod | Elizabeth Porter |
llofnod |
Awdur a geiriadurwr Seisnig oedd Samuel Johnson, neu Dr Johnson (18 Medi 1709 – 13 Rhagfyr 1784).
Hanes
Cafodd Johnson ei eni yn Lichfield, Swydd Stafford. Priododd Elizabeth "Tetty" Porter yn 1735. Roedd yn ffrind i Hester Thrale ac Anna Williams.
Gwaith llenyddol
Un o'i lyfrau enwocaf yw A Journey to the Western Islands of Scotland, sy'n cofnodi ei daith i Ucheldiroedd yr Alban ac Ynysoedd Heledd gyda'i gyfaill James Boswell, llenor o'r Alban a fyddai'n ysgrifennu bywgraffiad Johnson yn nes ymlaen. Yn ogystal â'i werth llenyddol, mae'r llyfr yn gofnod pwysig o fywyd yng ngogledd-orllewin yr Alban cyn 'Clirio'r Ucheldiroedd'.
Llyfryddiaeth ddethol
Amryw
- Dictionary of the English Language (1755)
- A Journey to the Western Islands of Scotland (1775)
- Lives of the Most Eminent English Poets (1779-1781)
Ffuglen
- The History of Rasselas, Prince of Abissinia