Samuel Eliot Morison
Samuel Eliot Morison | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 9 Gorffennaf 1887 ![]() Boston ![]() |
Bu farw | 15 Mai 1976 ![]() Boston ![]() |
Man preswyl | Boston ![]() |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | swyddog milwrol, hanesydd milwrol, hanesydd, academydd, athro cadeiriol, awdur, llenor ![]() |
Cyflogwr | |
Mam | Emily Marshall Eliot ![]() |
Gwobr/au | Llengfilwr y Lleng Teilyndod, Gwobr Balza, Gwobr Pulitzer ar gyfer Bywgraffiad neu Hunangofiant, Gwobr Bancroft, Gwobr Pulitzer ar gyfer Bywgraffiad neu Hunangofiant, Medal Emerson-Thoreau, Gwobr Bancroft, Medal Rhyddid yr Arlywydd, World War I Victory Medal, Cymrodoriaeth Guggenheim, Loubat Prize ![]() |
Hanesydd a bywgraffydd Americanaidd oedd Samuel Eliot Morison (9 Gorffennaf 1887 – 15 Mai 1976) sy'n nodedig am ei ysgolheictod am hanes morwrol, a hanes llyngesol yn enwedig.
Ganwyd yn Boston, Massachusetts, a mynychodd St. Paul's School yn Concord, New Hampshire. Astudiodd ym Mhrifysgol Harvard. Gwasanaethodd yn Llynges yr Unol Daleithiau o 1942 i 1951, a chyrhaeddodd reng ôl-lyngesydd yn y llynges wrth gefn.
Enillodd Wobrau Pulitzer am ei fywgraffiadau o Cristoforo Colombo (Admiral of the Ocean Sea) a John Paul Jones.
Bu farw yn Boston yn 88 oed.[1]
Llyfryddiaeth ddethol
- Maritime History of Massachusetts (1921).
- Admiral of the Ocean Sea (1942).
- John Paul Jones (1959).
- The Oxford History of the American People (1965).
- History of U.S. Naval Operations in World War II, 15 cyfrol (1947–62).
- The Life of Commodore Matthew C. Perry (1967).
- The European Discovery of America: The Northern Voyages (1971).
Cyfeiriadau
- ↑ (Saesneg) Samuel Eliot Morison. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 9 Medi 2019.