Sarah Siddons
Sarah Siddons | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Sarah Kemble ![]() 5 Gorffennaf 1755 ![]() Aberhonddu ![]() |
Bu farw | 8 Mehefin 1831 ![]() Llundain ![]() |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon ![]() |
Galwedigaeth | actor llwyfan ![]() |
Tad | Roger Kemble ![]() |
Mam | Sarah Ward ![]() |
Priod | William Siddons ![]() |
Plant | Henry Siddons, Sarah Martha Siddons, Emma Siddons, Frances Emilia Siddons, George John Siddons, Cecilia Siddons, Eliza Ann Siddons, Maria Siddons ![]() |

Actores o Gymru oedd Sarah Siddons (5 Gorffennaf 1755 – 8 Mehefin 1831; nee Kemble), a gofir yn bennaf am ei phortread o Lady Macbeth. Fe'i hystyrir gan lawer fel actores drasig fwya'r 18g. Ganwyd Sarah yn Aberhonddu, yn ferch i Roger Kemble a oedd yn rheolwr cwmni o actorion, sef y Warwickshire Company of Comedians. Roedd ei chwaer Ann Hatton yn nofelydd poblogaidd.
Yr hyn sy'n weddill
Yn Aberhonddu ceir tafarn o'r enw "Sarah Siddons" ac roedd injan a adeiladwyd gan gwmni Metropolitan-Vickers a oedd yn rhedeg ar rwydwaith Trafnidiaeth Llundain yn dwyn ei henw, ond a roddwyd yr injan i orffwys yn 1961. Mae 'Cymdeithas Sarah Siddons' yn parhau i gyflwyno gwobr y Sarah Siddons Award yn Chicago'n flynyddol i actores amlwg.

Ar 12 Ebrill 2010, darlledodd BBC Radio 4 y cyntaf o bum rhaglen am ei pherthynas hir gyda'r arlunydd Thomas Lawrence. Sgwennwyd y sgript gan David Pownall.