Lloegr
![]() | |
England | |
![]() | |
Math | gwledydd y Deyrnas Unedig ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl | Angliaid, tir ![]() |
Prifddinas | Llundain ![]() |
Poblogaeth | 53,012,456, 57,106,398 ![]() |
Anthem | God Save the King ![]() |
Pennaeth llywodraeth | Keir Starmer ![]() |
Cylchfa amser | Amser Cymedrig Greenwich ![]() |
Nawddsant | Siôr ![]() |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Saesneg ![]() |
Daearyddiaeth | |
Arwynebedd | 130,278 km² ![]() |
Yn ffinio gyda | Yr Alban, Cymru ![]() |
Cyfesurynnau | 53°N 1°W ![]() |
Cod SYG | E92000001 ![]() |
GB-ENG ![]() | |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | teyrn y Deyrnas Unedig ![]() |
Pennaeth y wladwriaeth | Charles III ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog y Deyrnas Unedig ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Keir Starmer ![]() |
![]() | |
Arian | punt sterling ![]() |
Gwlad ar Ynys Prydain yng ngogledd orllewin Ewrop yw Lloegr (Saesneg: England). Yn ddaearyddol, ac o ran poblogaeth, hi yw'r wlad fwyaf o fewn y Deyrnas Unedig. Mae'n ffinio â Chymru i'r gorllewin a'r Alban i'r gogledd.
Yn y 6ed a'r 7g cyrhaeddodd llwythau Tiwtonaidd (a gynhwysai yn ôl traddodiad yr Eingl, Sacsoniaid, a Jutiaid) Brydain o dir mawr Ewrop a gwladychu de a dwyrain yr ynys gan yrru'r brodorion o Geltiaid tua'r gorllewin ac i'r ardaloedd llai ffrwythlon; arhosodd eraill ac fe'u hymgorfforwyd o fewn cymdeithas y goresgynnwyr.
Ymledodd rheolaeth y Saeson cynnar o dipyn i beth tua'r gorllewin a'r gogledd gan greu nifer o deyrnasoedd fel Wessex, Mersia, Essex, Sussex, a Northumbria. Colli eu hiaith a'u harferion bu hanes y Brythoniaid a oroesodd yn yr ardaloedd hynny. Ond Wessex oedd yr unig un i gadw ei hannibyniaeth ar ôl goresgyniadau'r Llychlyniaid yn yr 8fed a'r 9g, a theyrnas Wessex fu sail teyrnas Lloegr a'r Deyrnas Unedig wedyn.
Nawddsant Lloegr: Sant Siôr - 23 Ebrill.
Rhanbarthau Lloegr
- Prif: Rhanbarthau Lloegr
Mae naw rhanbarth yn Lloegr:
- Llundain Fwyaf
- De-ddwyrain Lloegr
- De-orllewin Lloegr
- Gorllewin Canolbarth Lloegr
- Gogledd-orllewin Lloegr
- Gogledd-ddwyrain Lloegr
- Swydd Efrog a'r Humber
- Dwyrain Canolbarth Lloegr
- Dwyrain Lloegr
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/a/a6/English_North-South_divide.png/220px-English_North-South_divide.png)
Gweler hefyd
|