Sejanus
| Sejanus | |
|---|---|
| Ganwyd | 3 Mehefin 20 CC Volsinii |
| Bu farw | 16 Hydref 0031, 18 Hydref 0031 Rhufain |
| Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
| Galwedigaeth | gwleidydd, Praetorian prefect, person milwrol |
| Swydd | Conswl Rhufeinig |
| Tad | Lucius Seius Strabo, Sextus Aelius Catus |
| Mam | Junia Blaesa |
| Priod | Apicata, Livilla |
| Partner | Livilla |
| Plant | Lucius Aelius Strabo, Aelia Junilla, Capito Aelianus |

Pennaeth Gard y Praetoriwm ac un o'r dynion mwyaf grymus yn yr Ymerodraeth Rufeinig oedd Lucius Aelius Seianus neu Sejanus (20 CC - 18 Hydref, 31 OC).
Ganed Sejanus yn 20 CC yn Volsinii yn Etruria. Daeth yn bennaeth Gard y Praetoriwm dan yr ymerawdwr Augustus yn y flwyddyn 14 OC, a bu yn y swydd hyd ei farwolaeth yn 31. Dano ef, daeth y Gard i fod yn fwy na gwarchodlu, gan ddatblygu i fod o bwysigrwydd gwleidyddol mawr. Yn ystod teyrnasiad yr ymerawdwr Tiberius, cynyddodd grym Sejanus. Yn y 20au cafodd ware o nifer o bobl oedd yn bygwth ei sefyllfa, yn cynnwys mab yr ymerawdwr, Julius Caesar Drusus, a gafodd ei wenwyno. Pan ymddeolodd Tiberius i ynys Capri yn 26, Sejanus oedd yn rheoli'r ymerodraeth i bob pwrpas.
Yn 31 fe'i gwnaed yn Gonswl, ond yr un flwyddyn daeth dan amheuaeth o gynllwynio yn erbyn yr ymerawdwr. Fe'i cymerwyd i'r ddalfa, a dienyddiwyd ef a nifer o'i ddilynwyr.