Shillong
Math | dinas |
---|---|
Poblogaeth | 143,229 |
Cylchfa amser | UTC+05:30 |
Daearyddiaeth | |
Sir | East Khasi Hills district |
Gwlad | India |
Arwynebedd | 64.36 km² |
Uwch y môr | 1,525 ±1 metr |
Cyfesurynnau | 25.5744°N 91.8789°E |
Cod post | 793001 |
Prifddinas talaith Meghalaya yng ngogledd-ddwyrain India yw Shillong (Khasi: Shillong, Hindi: शिलांग, Bengaleg: শিলং). Mae'n gorwedd ar uchder o 1.496m ac mae ganddi boblogaeth o tua 260,000.
O 1874 hyd 1905 roedd Shillong yn brifddinas hen dalaith Assam (oedd llawer ehangach na'r dalaith bresennol o'r un enw). Daeth yn brifddinas Meghalaya pan grëwyd y dalaith honno yn 1972.
Amgylchynnir y ddinas gan fryniau a orchuddir a choedwigoedd pin. Mae Llyn Wad a'r gerddi botanegol ymhlith atyniadau Shillong. Mae'n un o'r lleoedd gwlypaf yn India, diolch i law y monsŵn.