Sian Brooke
Sian Brooke | |
---|---|
Ganwyd | 1980 Caerlwytgoed |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | actor, ymgyrchydd hinsawdd |
Actores Seisnig o dras Cymreig yw Sian Brooke (ganwyd Sian Phillips yn Lichfield ym 1980) sy'n adnabyddus am bortreadu Laura yn All About George a Lori yn Cape Wrath.
Cefndir
Magwyd Brooke yn Lichfield a hi yw'r plentyn ieuengaf o dri.[1] Cafodd ei geni i rieni Cymreig.[2] Roedd yn gyn-aelod o Theatr Cenedlaethol Ieuenctid a fe'i hyfforddwyd yn RADA, gan raddio yn 2002.
Ei chyfenw bedydd oedd Phillips. Dewisodd ei enw llwyfan i osgoi dryswch gyda'r actores Siân Phillips, gan ddewis y cyfenw Brooke ar ôl cadfridog yn Rhyfel Cartref Lloegr a fu'n gwasanaethu yn Lichfield, ei thref enedigol.[3]
Gyrfa
Mae credydau teledu Brooke yn cynnwys A Touch of Frost, Hotel Babylon, Foyle's War ac The Fixer. Yn blentyn, ymddangosodd yn Strangers in Utah gyda Adrian Dunbar a Phyllida Law. Chwareodd Laura, un o'r brif gymeriadau yn All About George a Lori Marcuse yn Cape Wrath.
Mae Brooke wedi benthyg ei llais i ddramâu radio dramâu Murder on the Homefront, A Pin to See the Peepshow a Dreaming in Africa.[4]
Mae ei gwaith theatr yn cynnwys Harvest, Dying City, Dido Queen of Carthage, In The Club, The Birthday Party ac Absolutely Perhaps. Mae hi hefyd wedi ymddangos mewn cynyrchiadau o Poor Beck, A Midsummer Night's Dream, King Lear a Romeo a Juliet, gyda'r Royal Shakespeare Company. O fis Gorffennaf i fis Awst 2008, roedd Brooke yn chwarae Dorothy Gale yn sioe gerdd The Wizard of Oz yn y Southbank Centre. Cyfarwyddwyd y cynhyrchiad gan Jude Kelly. Yn ystod 2011 yn yr Almeida Theatre, Llundain, ymddangosodd yn My City gan Stephen Poliakoff a Reasons to be Pretty gan Neil LaBute. O fis Awst i fis Hydref 2015, bu'n chwarae rhan Ophelia ochr yn ochr â Benedict Cumberbatch yn nghynhyrchiad y Barbican o Hamlet.[5][6]
Yn 2017, bu'n portreadu Eurus, chwaer Sherlock Holmes, ym mhedwerydd cyfres y BBC o'r ddrama drosedd Sherlock.
Ffilmyddiaeth
Blwyddyn | Teitl | Rhan | Nodiadau |
---|---|---|---|
2002 | Dinotopia | Krista - Marooned (2002) |
|
2006 | All About George | Laura | Drama-gomedi |
Under the Greenwood Tree | Susan Dewy | Ffilm deledu | |
2006 | A Touch of Frost | Carol Haymarsh - Endangered Species (2006) |
Cyfres dditectif |
Housewife, 49 | Evelyn Edwards | Ffilm deledu | |
2007 | Foyle's War | Phyllis Law - Bleak Midwinter (2007) |
Drama drosedd cyfnod |
Hotel Babylon | Lisa - Pennod 2.4 (2007) |
Drama-gomedi | |
Cape Wrath | Lori Marcuse | Drama | |
2008 | The Fixer | Melrose Cassidy - Pennod 1.2 (2008) |
Drama |
Midsomer Murders | Christine Turner - The Magician's Nephew (2008) |
Cyfres dditectif | |
The Commander | DC Marian Randall - Abduction (2008) |
Cyfres dditectif | |
2011 | Garrow's Law | Ann Hadfield | Cyfres Tri |
2017 | Sherlock | Euros Holmes - "The Six Thatchers" |
Cyfres Pedwar |
Cyfeiriadau
- ↑ Powell, Lucy (12 July 2008). "Click your heels ... Siân Brooke as Dorothy in The Wizard of Oz". The Times. Cyrchwyd 2009-08-20. Italic or bold markup not allowed in:
|publisher=
(help) - ↑ Whitfield, Lydia (25 Ebrill 2004). "Revealed: Wales's top 50 single women". Wales on Sunday. Cyrchwyd 2009-08-20. Italic or bold markup not allowed in:
|publisher=
(help) - ↑ Sian Brooke - Biography IMDB.
- ↑ National Theatre: Company Members: Sian Brooke Archifwyd 2011-08-17 yn y Peiriant Wayback. Retrieved on 2009-08-20.
- ↑ Trueman, Matt (18 Tachwedd 2011). "Sian Brooke: The beauty of changing places". The Stage. Cyrchwyd 12 Ionawr 2012.
- ↑ Sierz, Aleks (18 Tachwedd 2011). "Reviews: Reasons To Be Pretty". The Stage. Cyrchwyd 12 Ionawr 2012.
Dolenni allanol