Stadiwm SWALEC

Stadiwm SWALEC
Mathlleoliad chwaraeon, maes criced Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol1967 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadCaerdydd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.4872°N 3.1914°W Edit this on Wikidata
Cymylau isel uwch Stadiwm SWALEC, Caerdydd

Stadiwm criced yng Ngerddi Soffia, Caerdydd yw Stadiwm SWALEC. Y stadiwm yma yw prif gartref Clwb Criced Morgannwg.

Enw gwreiddiol y stadiwm oedd Gerddi Soffia, wedi ei enwi ar ôl y Fonesig Sophia Rawdon-Hastings, merch Francis Rawdon-Hastings, Marcwis 1af Hastings, a gwraig John Crichton-Stuart, Ail Farcwis Bute.

Mae Morgannwg wedi bod yn chwarae criced yma ers 1967, ar ôl symud o Barc yr Arfau. Ym 1995 cymerodd Morgannwg lês o 125 mlynedd arno. Yn 2007 dechreuwyd gwaith ar gynllun i ehangu'r stadiwm i'w wneud yn addas ar gyfer gemau criced rhyngwladol. Cynhaliwyd gêm un diwrnod rhwng Lloegr a De Affrica yma ar 3 Medi 2008, a chynhaliwyd Gêm Brawf rhwng Lloegr ac Awstralia yma ar 8-12 Gorffennaf 2009.

Eginyn erthygl sydd uchod am Gaerdydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato