Stamp


Darn bychan o bapur printiedig, gludog fel rheol, a roddir ar lythyr neu baced i ddangos fod yr anfonydd wedi talu am ei bostio yw stamp. Fe'i cyhoeddir gan wasanaethau post gwladol fel rheol, fel modd i ddangos fod rywun wedi talu am anfon amlen, cerdyn neu eitem arall gyda'r post. Gelwir yr astudiaeth o stampiau yn ffilateliaeth.
Stampiau Cymreig
Does gan Gymru ddim stampiau swyddogol fel y cyfryw ond mae Post Brenhinol y DU yn cyhoeddi "argraffiadau Cymreig" a stampiau arbennig achlysurol. Ond does gan Gymru ei gwasanaeth post ei hun ac mae'r stampiau hyn, fel gweddill stampiau'r Post Brenhinol, yn cynnwys pen Brenhines y DU ac yn cyfrif fel stampiau Prydeinig yn hytrach na stampiau Cymreig fel y cyfryw.
Dros y blynyddoedd mae sawl mudiad Cymreig cenedlaetholgar a gwladgarol wedi cyhoeddi stampiau Cymreig answyddogol i'w defnyddio ar amlenni.
Gweler hefyd
- Stampiau Cymreig answyddogol
- Cymru a'r Cymry ar stampiau
- Y Gwasanaeth post
- Ffilateliaeth