Star Wars
Masnachfraint ffugwyddonol Americanaidd yw Star Wars. Mae'n cynnwys tri drioleg o ffilmiau sydd wedi datblygu'n gyfresi teledu, llyfrau, gemau cyfrifiadurol a chomics. Ynddynt darlunir galaeth dychmygol, pell iawn i ffwrdd o blaned Daear, ble mae'r Jedi yn cynrychioli'r da a'r Sith yn cynrychioli'r drwg. Yr arf, fel arfer, yw'r saber-golau (lightsaber) a cheir nifer o themâu, gydag elfennau o athroniaeth a chrefydd yn nadreddu drwy'r themâu hynny.
Lansiwyd y ffilm cyntaf ar 25 Mai 1977 gyda'r teitl Star Wars a hynny gan 20th Century Fox a daeth yn hynod o boblogaidd ledled y byd. Yn hydref 2012, prynodd The Walt Disney Company Lucasfilm am $4.05 biliwn a chyhoeddodd ei fwriad o greu trydedd cyfres gyda'r gyntaf o'r dair Star Wars Episode VII, yn gweld golau dydd yn 2015.[1]
Ffilmiau
Rhif | Is-deitl | Blwyddyn | Cyfarwyddwr |
---|---|---|---|
I | The Phantom Menace | 1999 | Lucas, GeorgeGeorge Lucas |
II | Attack of the Clones | 2002 | Lucas, GeorgeGeorge Lucas |
III | Revenge of the Sith | 2005 | Lucas, GeorgeGeorge Lucas |
IV | A New Hope | 1977 | Lucas, GeorgeGeorge Lucas |
V | The Empire Strikes Back | 1980 | Kershner, IrvinIrvin Kershner |
VI | Return of the Jedi | 1983 | Marquand, RichardRichard Marquand |
VII | The Force Awakens | 2015 | Abrams, J. J.J. J. Abrams |
VIII | The Last Jedi | 2017 | Johnson, RianRian Johnson |
IX | The Rise of Skywalker | 2019 | Abrams, J. J.J. J. Abrams |
Cyfeiriadau
- ↑ Nakashima, Ryan (20 Hydref 2012). "Disney to make new 'Star Wars' films, buy Lucas co". MSN Money. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Tachwedd 2012. Cyrchwyd 31 Hydref 2012.