Stupa

Stupa Mawr Sanchi, India (tua 4edd ganrif - ganrif 1af CC).

Srwythur o siap tomen neu fwnt sy'n dal creiriau Bwdhaidd - gweddillion sant fel rheol - yw stupa (Sansgrit a Pāli: स्तूप, stūpa, yn llythrennol "pentwr"). Mae'r creirfaoedd hyn yn nodwedd amlwg yn nhirwedd unrhyw wlad Fwdhaidd yn Asia, o Nepal i Japan, ac yn cymryd sawl ffurf ranbarthol a hanesyddol. Mae cynllun y stupa yn fath o fandala, patrwm sanctaidd sy'n adlewyrchu'r bydysawd.

Ceir sawl gair am 'stupa' mewn ieithoedd Asiaidd eraill, e.e.

  • chos rtan/chörten (Tibeteg, "sedd y dharma")
  • chedi (Taieg, o'r gair Pāli chaitya)
  • dagobah (Sinhaleg, o'r gair Sansgrit dhatu; gwraidd y gair Tsieineeg pagoda)
  • tope (Hindi, o'r Sansgrit)
  • garbha (Sansgrit, yn golygu storfa)

Yn ôl traddodiad, codwyd y stupas cyntaf, wyth ohonynt, i ddal lludw Gautama Buddha. Ceir enghreifftiau cynnar yn Sarnath a Sanchi a lleoedd eraill yng ngogledd India.

Oriel