Nid yw'r Swydd Aberdeen bresennol yn cynnwys Dinas Aberdeen, sy'n awdurdod unedol ynddi ei hun. Fodd bynnag, mae pencadlys Swydd Aberdeen, Woodhill House, yn ninas Aberdeen. Mae Swydd Aberdeen yn ffinio ag Angus a Perth a Kinross i'r de, a'r Ucheldir a Moray i'r gorllewin.