Tŷ Medici
Teulu Eidalaidd oedd y Medici a oedd yn hynod o ddylanwadol ym mydoedd bancio, yr Eglwys Gatholig, a gwleidyddiaeth yr Eidal a Ffrainc o'r 15g hyd at ddechrau'r 18g. Buont yn tra-arglwyddiaethu ar ddinas Fflorens trwy gydol yr holl gyfnod bron o 1434 i 1737 ac yn benaethiaid ar un o fanciau mwyaf Ewrop. Ymhlith aelodau'r Medici bu pedwar Arglwydd Fflorens, dau Ddug Fflorens, pedwar pab, nifer o gardinaliaid, y saith Uchel Ddug Toscana o 1569 hyd at 1737, a dwy o freninesau Ffrainc.
Tarddiad y Medici
Daeth teulu'r Medici o dras werinol ym mhentref Cafaggiolo yn nyffryn y Mugello, i ogledd Fflorens. Ymfudodd rhai ohonynt i Fflorens yn y 12g i fanteisio ar y ffyniant masnachol yn y ddinas. Erbyn y 13g buont yn deulu cefnog nodedig, ond nid eto yn rhan o ddosbarth uchelwrol y ddinas. Un o brif aelodau'r Medici yn y cyfnod hwn oedd Chiarissimo II, ŵyr i'r Medici cyntaf y gwyddys amdano. Yn sgil dirywiad economaidd ar draws Ewrop yn y 1340au, aeth yr hen deuluoedd pwerus yn fethdal ac ymsefydlodd y Medici fel rhan o gylch uchaf Fflorens. Aeth disgynyddion Chiarissimo II ati i atgyfnerthu eu safle mewn hanner can mlynedd hynod o gythryblus ac anffodus iddynt.[1]
Parhaodd Salvestro de' Medici â pholisi ei dad-cu Chiarissimo o ymgynghreirio â'r bobl gyffredin (popolo minuto). Fe'i etholwyd yn bennaeth (gonfalonier) ar gyngor y llywodraeth (signoria) ym 1378.
Cyfeiriadau
- ↑ (Saesneg) Medici family. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 9 Hydref 2021.