Tacteg filwrol
Yr agwedd ar wyddor filwrol sy'n canolbwyntio ar drefnu lluoedd, technegau defnyddio arfau, a symud ac arwain unedau milwrol er mwyn trechu gelyn mewn brwydr yw tacteg filwrol. Gelwir gweithred unigol sy'n rhoi'r fath gynlluniau ar waith hefyd yn dacteg filwrol (lluosog: tactegau milwrol), er enghraifft ystlysu. Mae tacteg filwrol yn ffurfio rhan o strategaeth filwrol ehangach.
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/2/23/Tank_template.svg/34px-Tank_template.svg.png)