Tancer olew
Enghraifft o: | math o long |
---|---|
Math | oil tanker |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Llong a adeiladwyd er mwyn cludo olew yw tancer olew. Mae tanceri olew ymysg y llongau mwyaf yn y byd. Y tancer olew mwyaf oedd y Jahre Viking o Norwy sydd 458m ar hyd a thua 650.000 GRT trwm (mae allan o wasanaeth erbyn hyn ac mewn doc sych yn Dubai).
Roedd y tancer olew cyntaf, a adeiladwyd ym 1886, yn fychan iawn, llong dim ond 97m ar hyd a methrodd cludo mwy nag 3000 tunellau o olew. Ond daeth y llongau hwn yn fawrach pob tro. Ym 1959 adeiladwyd y tancer olew cyntaf a gallodd cludo 100,000 tunnellau o olew, ac ym 1976 y tancer cyntaf a gallodd cludo 500,000 tunnellau o olew. Beth bynnag, does dim ond nifer o danceri mor fawr heddiw achos fod eu adeiladwaith ddim yn digon cryf ac achos mae mwyafrif o borthladdoedd ddim yn ddigon mawr iddyn nhw. At hynny, maen nhw'n rhy llydan i fynd trwy'r Camlas Panama a'r Camlas Suez, hefyd.
Fel arfer, mae tanceri olew a gellir cludo mwy nag 100,000 tunnellau o olew yn cludo olew i Ewrop.
Trychinebau
Mae nifer o drychinebau yr amgylchedd wedi eu achosi gan gorlif olew ar ôl damwain tanceri. Mae'r olew yn glynu wrth plu a blew yr anifeiliaid a mae gewnwyn yr olew yn lladd pysgod, cregyn ac anifeiliad bychain eraill.
Er mwyn osgoi gorlif olew yn y dyfodol penderfynodd y Sefydliad Morwrol Rhyngwladol (IMO) y fydd hi'n rhaid adeiladu tanceri olew gan ail cragen o'i gwmpas. Fel hynny, bydd dim ond y cragen allanol yn torri pan fydd tancer olew yn mynd ar creigiau. Ar ôl 2015 bydd cragen dwbl hwnnw yn gorfodol.
Trychinebau tanceri olew pennaf yw:
- Trychineb y Torrey Canyon ar arfordir De Lloegr ar 18 Mawrth 1967
- Trychineb yr Amoco Cadiz ar arfordir Llydaw ym mis Mawrth 1978
- Trychineb yr Exxon Valdez yn Prince Williams Bay, Alaska ym mis Mawrth 1989
- Trychineb y Braer ger Ynysoedd Shetland ar 5 Ionawr 1993
- Trychineb y Sea Empress ar arfordir De Cymru ar 15 Chwefror 1996
- Trychineb yr Erika, Bae Biscay 1999
- Trychineb y Prestige ger arfordir Galisia ar 13 Tachwedd 2002
- Trychineb y Napoli oddi ar arfordir Dyfnaint, De Lloegr ar 20 Ionawr 2007