Telor

Siff-saff (Phylloscopus collybita)
Telor Cynffon Wyntyll (Cisticola juncidis)
Telor Penddu (Sylvia atricapilla)

Enw ar sawl grŵp o adar bach yn yr urdd Passeriformes yw telor. Dosbarthwyd y teloriaid mewn un teulu, Sylviidae, hyd yn ddiweddar ond fe'u rhennir yn sawl teulu gwahanol bellach.[1] Mae'r teloriaid yn cynnwys tua 400 o rywogaethau; ceir y mwyafrif ohonynt yn Ewrop, Asia ac Affrica.[2] Maent yn bwydo ar bryfed fel rheol ond mae rhai rhywogaethau'n bwydo ar ffrwythau a neithdar hefyd.[2]

Teuluoedd

  • Macrosphenidae: teloriaid Affricanaidd megis y teloriaid cambig, 18 rhywogaeth
  • Cettiidae: Telor Cetti a'i berthnasau, 32 rywogaeth
  • Scotocercidae: Telor y Drysni, 1 rywogaeth
  • Phylloscopidae: teloriaid y dail, 77 rhywogaeth
  • Acrocephalidae: teloriaid y cyrs, 61 rywogaeth
  • Locustellidae neu Megaluridae: teloriaid y gwair, 57 rhywogaeth
  • Bernieridae: teloriaid Madagascar, 11 rywogaeth
  • Cisticolidae: y Telor Cynffon Wyntyll a'i berthnasau, 160 rhywogaeth
  • Sylviidae: teloriaid y prysg, parotbigau a'u perthnasau, 70 rhywogaeth
  • Regulidae: y Dryw Eurben a'i berthnasau, 6 rhywogaeth
  • Hyliotidae: hyliotas, 4 rhywogaeth

Gweler hefyd

Gall yr enw telor gyfeirio hefyd at sawl grŵp arall o adar sy ddim yn perthyn i deloriaid yr Hen Fyd:

  • Parulidae: teloriaid Americanaidd
  • Acanthizidae: teloriaid Awstralasiaidd

Cyfeiriadau

  1. Roberson, Don (2006) The break-up of the Old World Warblers, Bird Families of the World. Adalwyd 6 Mai 2013.
  2. 2.0 2.1 Perrins, Christopher, gol. (2004) The New Encyclopedia of Birds, Oxford University Press, Rhydychen.
Eginyn erthygl sydd uchod am aderyn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.