The Office (cyfres teledu UDA)
Enghraifft o: | cyfres deledu |
---|---|
Crëwr | Greg Daniels |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Dechreuwyd | 24 Mawrth 2005 |
Daeth i ben | 16 Mai 2013 |
Genre | rhaglen ffug-ddogfen, sitcom ar deledu Americanaidd, office humor |
Cymeriadau | Pam Beesly, Ryan Howard, Michael Scott, Jim Halpert, Dwight Schrute, Jan Levinson, Robert California, Andy Bernard, Kelly Kapoor |
Yn cynnwys | The Office, season 1, The Office, season 2, The Office, season 3, The Office, season 4, The Office, season 5, The Office, season 6, The Office, season 7, The Office, season 8, The Office, season 9 |
Lleoliad y gwaith | Scranton |
Hyd | 22 munud |
Cyfarwyddwr | Randall Einhorn, J. J. Abrams, Joss Whedon, Jon Favreau, Harold Ramis, Jason Reitman, Mark Webb, Ken Kwapis |
Cwmni cynhyrchu | Universal Television, Deedle-Dee Productions, 3 Arts Entertainment |
Cyfansoddwr | Jay Ferguson |
Dosbarthydd | NBCUniversal Media Group, Netflix |
Iaith wreiddiol | Saesneg |
Sinematograffydd | Randall Einhorn |
Gwefan | https://www.nbc.com/the-office |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae The Office yn gyfres deledu gomedi Americanaidd a ddarlledwyd ar NBC o 24 Mawrth 2005 hyd 16 Mai 2013.
Mae'n addasiad o'r rhagln BBC wreiddiol o'r un enw. Cafodd The Office ei addasu ar gyfer cynulleidfa Americanaidd gan Greg Daniels, ysgrifennydd sgript Saturday Night Live, King of the Hill, a The Simpsons. Cafodd ei gyd-gynhyrchu gan gwmni cynhyrchu Daniels Deedle-Dee Productions, a Reveille Productions (Shine America), mewn cyd-weithrediad gydag Universal Television. Yr uwch gynhyrchydd gwreiddiol oedd Greg Daniels, Howard Klein, Ben Silverman, Ricky Gervais, a Stephen Merchant, gyda mwy yn cael dyrchafiad mewn cyfresi eraill.
Mae'r gyfres yn portreadu bywyd bob dydd gweithwyr mewn swyddfa yn Scranton, Pennsylvania, cangen o'r cwmni papur ffuglenol Dunder Mifflin. I greu teimlad o raglen ddogfen go iawn, un camera sy'n cael ei ddefnyddio, heb gynulleidfa stiwdio na chwerthin ffug. Cafodd y sioe ei ddarlledu am y tro cyntaf ar NBC a redodd am naw cyfres a 201 pennod. Steve Carell, Rainn Wilson, John Krasinski, Jenna Fischer, a B. J. Novak oedd prif gast y rhaglen ar y dechrau, gyda llawer o newidiadau i'r cast yn ystod y 9 cyfres.
Cafodd cyfres cyntaf The Office adolygiadau amrywiol, ond cafodd y pedwar cyfres oedd i ddilyn ganmoliaeth ysgubol gan adolygwyr teledu. Cafodd y cyfresi yma eu cynnwys mewn llawer o restrau arbennig gan adolygwyr, gan ennill nifer o wobrau gan gynnwys pedwar Primetime Emmy Awards, sy'n cynnwys Outstanding Comedy Series yn 2006. Tra bod cyfresi hwyrach eu barnu bod y safon wedi gostwng, cafodd y gyfres olaf ei ysgrifennu gan ysgrifenwyr cynnar y rhaglen ac fe dderbyniodd y rhaglen adolygiadau positif.
Yn Rhagfyr 2017 roedd adroddiadau yn honni bod NBC yn ystyried adfywio'r gyfres. Roedd am redeg yn 2018-19 ac am ddangos cymysgfa o gast gwreiddiol (heb Steve Carell) a chast newydd.[1]
Cyfeiriadau
- ↑ Petski, Denise (December 18, 2017). "'The Office' Revival Eyed At NBC". Deadline. Cyrchwyd December 19, 2017.