Theophilus Evans

Theophilus Evans
Ganwyd21 Chwefror 1693 Edit this on Wikidata
Cwm-cou, Llandygwydd Edit this on Wikidata
Bu farw11 Medi 1767 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethhanesydd Edit this on Wikidata

Hynafiaethydd o Gymru oedd Theophilus Evans (Chwefror 169311 Medi 1767). Ganwyd yng Nghwm-cou, Ceredigion, ger Castellnewydd Emlyn. Ef oedd awdur y llyfr enwog Drych y Prif Oesoedd. Roedd ei fab-yng-nghyfraith Hugh Jones yn dad i Theophilus Jones, awdur A History of Brecknockshire (1805-1809).

Gyrfa

Cafodd ei eni a'i fagu yng Nghwm Cou, ar lan Afon Teifi. Fe'i urddwyd yn offeiriad yn 1718 a gwasanethodd mewn sawl plwyf yn yr hen Sir Frycheiniog am weddill ei oes (ac eithrio 1722-1728 pan fu yn Llandyfriog, Ceredigion). Roedd hyn yn cynnwys cyfnodau fel curad dan Moses Williams (Tefynnog, 1717-1722) ac fel ficer yn Llangamarch lle bu Williams Pantycelyn yn gurad iddo. Bu farw yn 1767.

Drych y Prif Oesoedd

Yn y gyfrol Drych y Prif Oesoedd (1716 a 1740), mae Theophilus yn rhoi hanes y Brythoniaid a'r Cymry hyd cwymp y tywysogion gan dynnu ar sawl ffynhonnell hynafiaethol, gan gynnwys Sieffre o Fynwy.

Yn 1703, cyhoeddodd y Llydäwr Paul Yves Pezron ei lyfr enwog Antiquité de la nation et de la langue des Celtes, autrement appelée Gaulois. Cafwyd cyfieithiad Saesneg yn 1706 fel Antiquities of Nations a argraffwyd sawl gwaith ar ôl hynny. Dyma un o brif ffynonellau Theophilus Evans, sy'n cyfeirio sawl gwaith at Pezron gydag edmygedd mawr. Yn ôl damcaniaeth Pezron, y Gymraeg oedd iaith Gomer fab Jaffeth ac roedd y Cymry a'r Llydawyr yn ddisgynyddion iddo. Honodd hefyd fod y Groegiaid gynt yn adnabod y "Gomeriaid" fel y Titaniaid.[1] Ar sail gwaith Pezron mae awdur y Drych yn cyhoeddi'n groyw, ar ôl adrodd hanes cymysgu'r ieithoedd ar ôl cwymp Tŵr Babel,

A phwy oedd yn siarad Cymraeg, a dybiwch chwi, y pryd hwn[n]w, ond Gomer, mab hynaf Japheth ab Noa ab Lamech (... ) ab Adda ap Duw. Dyma i chwi waedoliaeth ac ach yr hen Gymry, cyfuwch a'r un a all un bonedd daearol fyth bosibl i gyrraedd ato, pe baem ni eu hepil yn well o hyn[n]y.[2]

Llyfryddiaeth

Gwaith Theophilus Evans

  • Galwedigaeth Ddifrifol i'r Crynwyr.. (1715). Cyfieithiad.
  • Cydwybod y Cyfaill Gorau ar y Ddaear (1715). Cyfieithiad.
  • Drych y Prif Oesoedd (1716). Y fersiwn cyntaf.
  • Prydferthwch Sancteiddrwydd yn y Weddi Gyffredin (1722). Cyfieithiad.
  • Pwyll y Pader... (1733). Cyfieithiad.
  • Llythyr-Addysc Esgob Llundain (1740). Cyfieithiad.
  • Drych y Prif Oesoedd (1740). Ail argraffiad diwygiedig, llawer helaethach.
  • Drych y Dyn Maleisus (1747?). Pregethau.
  • A History of Modern Enthusiasm from the Reformation to the Present Times (1752)
  • Pregeth yn dangos beth yw Natur ac Anian y Pechod yn erbyn Yr Ysbryd Glân (1760)

Golygiadau o'i waith ac ymdriniaethau

  • Garfield H. Hughes, Theophilus Evans a Drych y Prif Oesoedd (Caerdydd, 1963)
  • Bedwyr Lewis Jones, 'Theophilus Evans', Y Traddodiad Rhyddiaith (Gwasg Gomer, 1970)
  • David Thomas (gol.), Drych y Prif Oesoedd (Caerdydd, 1955). Argraffiad safonol gyda nodiadau.

Cyfeiriadau

  1. Glenda Carr, William Owen Pughe (Gwasg Prifysgol Cymru, 1983), tudalennau 77, 183.
  2. Theophilus Evans, Drych y Prif Oesoedd, pennod 8,9.
Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur o Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.