Tlws y bedw
Endromis versicolora | |
---|---|
![]() | |
Tlws y bedw | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | |
Urdd: | Lepidoptera |
Teulu: | Endromidae |
Genws: | Endromis Ochsenheimer, 1810 |
Rhywogaeth: | E. versicolora |
Enw deuenwol | |
Endromis versicolora (Linnaeus, 1758) | |
Cyfystyron | |
|
Gwyfyn sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw tlws y bedw, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy tlysau'r bedw; yr enw Saesneg yw Kentish Glory, a'r enw gwyddonol yw Endromis versicolora.[1][2] Mae i'w ganfod yn y Palearctig.
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8b/Endromis_versicolora_MHNT.CUT.2011.0.446._female.Allier_%28Hautes-Pyr%C3%A9n%C3%A9es%29_Dos.jpg/200px-Endromis_versicolora_MHNT.CUT.2011.0.446._female.Allier_%28Hautes-Pyr%C3%A9n%C3%A9es%29_Dos.jpg)
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/89/Britishentomologyvolume5Plate434.jpg/200px-Britishentomologyvolume5Plate434.jpg)
50–70 mm ydy lled yr adenydd ac mae'n hedfan rhwng Mawrth a Mai, yn ddibynol ar ei union leoliad.
Mae'r fenyw yn fwy na'r gwryw ac mae'n hedfan ar un adeg yn unig: i ddodwy ei hwyau yn y nos. Mae'r gwryw yn hedfan yn y dydd a'r nos. Mae lliw'r fenyw hefyd ychydig yn fwy gwelw. Gall y gwryw glywed ogla'r fenyw hyd at 2 km i ffwrdd.
Prif fwy y siani flewog ydy dail y fedwen.
Cyffredinol
Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.
Wedi deor o'i ŵy mae'r tlws y bedw yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
- ↑ Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
- ↑ Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.