Tour de France 2007
Enghraifft o: | Tour de France |
---|---|
Rhan o | 2007 UCI ProTour |
Dechreuwyd | 7 Gorffennaf 2007 |
Daeth i ben | 29 Gorffennaf 2007 |
Rhagflaenwyd gan | Tour de France 2006 |
Olynwyd gan | Tour de France 2008 |
Yn cynnwys | 2007 Tour de France, Prologue, 2007 Tour de France, Stage 1, 2007 Tour de France, Stage 2, 2007 Tour de France, Stage 3, 2007 Tour de France, Stage 4, 2007 Tour de France, Stage 5, 2007 Tour de France, Stage 6, 2007 Tour de France, Stage 7, 2007 Tour de France, Stage 8, 2007 Tour de France, Stage 9, 2007 Tour de France, Stage 10, 2007 Tour de France, Stage 11, 2007 Tour de France, Stage 12, 2007 Tour de France, Stage 13, 2007 Tour de France, Stage 14, 2007 Tour de France, Stage 15, 2007 Tour de France, Stage 16, 2007 Tour de France, Stage 17, 2007 Tour de France, Stage 18, 2007 Tour de France, Stage 19, 2007 Tour de France, Stage 20 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Tour de France 2007 oedd y 94ydd rhifyn o'r Tour de France. Cynhaliwyd rhwng 7 Gorffennaf a 29 Gorffennaf 2007. Dechreuodd gyda prologue yn Llundain, gan orffen yn ei leoliad traddodiadol o amgylch yr Arc de Triomphe a lawr y Champs-Élysées ym Mharis. Teithiodd y ras drwy Wlad Belg a Sbaen yn ogystal â Lloegr. Y reidiwr o Sbaen, Alberto Contador a enillodd y ras.
Datganwyd y byddai'r ras yn dechrau yn Llundain gan drefnwyr y Tour a Maer Llundain, Ken Livingstone, ar 24 Ionawr 2006. Dywedodd Livingstone y byddai'r ddau gymal yn Llundain yn coffau dioddefwyr bomiau Llundain 7 Gorffennaf 2005: "Having the Grand Départ on the seventh of July will broadcast to the world that terrorism does not shake our city."
Cafodd llwybrau'r Prologue a'r cymal gyntaf drwy Caint i Caergaint eu datgan ar 9 Chwefror 2006 yng Nghanolfan Cynhadledd y Frenhines Elisabeth II. Dyma oedd y drydedd tro i'r Tour ymweld â Lloegr, ar ôl iddi fynd trwy Plymouth yn 1974 a Chaint, Sussex a Hampshire yn 1994).
Dadorchuddwyd llwybr gyfan ras 2007 gan gyfarwyddwr y Tour, Christian Prudhomme ym Mharis ar 26 Hydref 2006. Roedd y ras yn gyfanswm o 3,569.9 cilomedr (2,218.2 milltir).[1]
Cafodd y Tour ei amharu gan ymrysonau cyffuriau, gyda thri reidiwr a thri tîm yn tynnu allan o'r ras ar ôl profion cyffuriau positif, gan gynnwys y ffefryn cyn y ras, Alexandre Vinokourov a'i dîm Astana. Yn dilyn cymal 16, cafodd gwisgwr y Crys Melyn, Michael Rasmussen, ei dynnu allan o'r Tour gan ei dîm Rabobank, a oedd yn ei gyhuddo o ddweud celwydd ynglŷn â pham fethodd sawl prawf cyffuriau yn gynt yn y flwyddyn.
Enillodd Tom Boonen y Crys Gwyrdd ar gyfer cystadleuaeth pwyntiau'r sbrintwyr am y tro cyntaf, wedi iddo fethu a cwblhau'r ras a thynnu allan yn 2005 a 2006 tra roedd yn arwain y gystadleuaeth bwyntiau. Gwobrwywyd y Crys Dot Polcai'r dringwr gorau, Mauricio Soler, y tro cyntaf iddo gystadlu yn y Tour.
Enillwyd y Crys Melyn, a roddir i'r arweinydd cyffredinol, gan Alberto Contador. Roedd yn ras agos iawn hyd y treial amser yng nghymal 19, a daeth Cadel Evans yn ail, a Levi Leipheimer yn drydydd, gyda'r tri ond 31 eiliad arwahan, y gwahaniaeth lleiaf erioed. Enillodd Alberto Contador y Crys Gwyn hefyd, gan mai ef oedd y reidiwr ifanc gorau (o dan 25).
Cymalau
Cymal | Dyddiad | Dechrau - Gorffen | Pellter | Math | |
---|---|---|---|---|---|
P | 7 Gorffennaf | London | 7.9 km | Treial Amser Unigol | |
1 | 8 Gorffennaf | London - Caergaint | 203 km | Cymal Gwastad | |
2 | 9 Gorffennaf | Dunkirk - Ghent | 168.5 km | Cymal Gwastad | |
3 | 10 Gorffennaf | Waregem - Compiègne | 236.5 km | Cymal Gwastad | |
4 | 11 Gorffennaf | Villers-Cotterêts - Joigny | 193 km | Cymal Gwastad | |
5 | 12 Gorffennaf | Chablis - Autun | 182.5 km | Cymal Trawsnewid | |
6 | 13 Gorffennaf | Semur-en-Auxois - Bourg-en-Bresse | 199.5 km | Cymal Gwastad | |
7 | 14 Gorffennaf | Bourg-en-Bresse - Le Grand-Bornand | 197.5 km | Cymal Mynyddig | |
8 | 15 Gorffennaf | Le Grand-Bornand - Tignes | 165 km | Cymal Mynyddig | |
G | 16 Gorffennaf | Diwrnod Gorffwys | |||
9 | 17 Gorffennaf | Val-d'Isère - Briançon | 159.5 km | Cymal Mynyddig | |
10 | 18 Gorffennaf | Tallard - Marseille | 229.5 km | Cymal Gwastad | |
11 | 19 Gorffennaf | Marseille - Montpellier | 182.5 km | Cymal Gwastad | |
12 | 20 Gorffennaf | Montpellier - Castres | 178.5 km | Transition Cymal | |
13 | 21 Gorffennaf | Albi | 54 km | Treial Amser Unigol | |
14 | 22 Gorffennaf | Mazamet - Plateau-de-Beille | 197 km | Cymal Mynyddig | |
15 | 23 Gorffennaf | Foix - Loudenvielle | 196 km | Cymal Mynyddig | |
G | 24 Gorffennaf | Diwrnod Gorffwys | |||
16 | 25 Gorffennaf | Orthez - Gourette-Col d'Aubisque | 218.5 km | Cymal Mynyddig | |
17 | 26 Gorffennaf | Pau - Castelsarrasin | 188.5 km | Transition Cymal | |
18 | 27 Gorffennaf | Cahors - Angoulême | 211 km | Cymal Gwastad | |
19 | 28 Gorffennaf | Cognac - Angoulême | 55.5 km | Treial Amser Unigol | |
20 | 29 Gorffennaf | Marcoussis - Paris Champs-Élysées | 146 km | Cymal Gwastad | |
Cyfanswm | 3,569.9 km |
Arweinwyr y dosbarthiadau
Cymal | Enillydd | Dosbarthiad cyffredinol Maillot jaune |
Dosbarthiad Pwyntiau Maillot vert |
Brenin y Mynyddoedd Maillot à pois rouges |
Reidiwr Ifanc Maillot blanc |
Dosbarthiad Tîm Classement par équipe |
Gwobr Brwydrol Prix de combativité |
---|---|---|---|---|---|---|---|
P | Fabian Cancellara | Fabian Cancellara | Fabian Cancellara | dim gwobr | Vladimir Gusev | Astana | dim gwobr |
1 | Robbie McEwen | Robbie McEwen | David Millar | Stéphane Augé | |||
2 | Gert Steegmans | Tom Boonen | Marcel Sieberg | ||||
3 | Fabian Cancellara | Stéphane Augé | Mathieu Ladagnous | ||||
4 | Thor Hushovd | Matthieu Sprick | |||||
5 | Filippo Pozzato | Erik Zabel | Sylvain Chavanel | Team CSC | Sylvain Chavanel | ||
6 | Tom Boonen | Tom Boonen | Bradley Wiggins | ||||
7 | Linus Gerdemann | Linus Gerdemann | Linus Gerdemann | T-Mobile Team | Linus Gerdemann | ||
8 | Michael Rasmussen | Michael Rasmussen | Michael Rasmussen | Rabobank | Michael Rasmussen | ||
9 | Mauricio Soler | Alberto Contador | Caisse d'Epargne | Yaroslav Popovych | |||
10 | Cédric Vasseur | Team CSC | Patrice Halgand | ||||
11 | Robert Hunter | Benoît Vaugrenard | |||||
12 | Tom Boonen | Amets Txurruka | |||||
13 | Cadel Evans* | Astana | dim gwobr | ||||
14 | Alberto Contador | Discovery Channel | Antonio Colom | ||||
15 | Kim Kirchen* | Astana | Alexander Vinokourov | ||||
16 | Michael Rasmussen | Mauricio Soler | Discovery Channel | Mauricio Soler | |||
17 | Daniele Bennati | Alberto Contador | Jens Voigt | ||||
18 | Sandy Casar | Sandy Casar | |||||
19 | Levi Leipheimer | dim gwobr | |||||
20 | Daniele Bennati | Freddy Bichot | |||||
Terfynol | Alberto Contador | Tom Boonen | Mauricio Soler | Alberto Contador | Discovery Channel | Amets Txurruka |
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
1915-1918 Gohirwyd oherwydd y Rhyfel Byd Cyntaf
1919 · 1920 · 1921 · 1922 · 1923 · 1924 · 1925 · 1926 · 1927 · 1928 · 1929 ·
1930 · 1931 · 1932 · 1933 · 1934 · 1935 · 1936 · 1937 · 1938 · 1939
1940-1946 Gohirwyd oherwydd yr Ail Ryfel Byd
1947 · 1948 · 1949 · 1950 · 1951 · 1952 · 1953 · 1954 · 1955 · 1956 · 1957 · 1958 · 1959 · 1960 · 1961 · 1962 · 1963 · 1964 · 1965 · 1966 · 1967 · 1968 · 1969 · 1970 · 1971 · 1972 · 1973 · 1974 · 1975 · 1976 · 1977 · 1978 · 1979 · 1980 · 1981 · 1982 · 1983 · 1984 · 1985 · 1986 · 1987 · 1988 · 1989 · 1990 · 1991 · 1992 · 1993 · 1994 · 1995 · 1996 · 1997 · 1998 · 1999 · 2000 · 2001 · 2002 · 2003 · 2004 · 2005 · 2006 · 2007 · 2008 · 2009 · 2010 · 2011 · 2012 · 2013 · 2014 · 2015
Crys Melyn | Crys Gwyrdd | Crys Dot Polca | Crys Gwyn | Gwobr Brwydrol