Twyni Deheuol
![]() | |
Math | cadwyn o fynyddoedd ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol | South Downs National Park ![]() |
Sir | Hampshire, Gorllewin Sussex, Dwyrain Sussex ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 258.7 mi² ![]() |
Uwch y môr | 889 troedfedd ![]() |
Cyfesurynnau | 50.9°N 0.5°W ![]() |
Hyd | 68.4 milltir ![]() |
Deunydd | sialc ![]() |
Cadwyn o fryniau sialc sy'n ymestyn am tua 670 km2 (260 milltir sgwâr) ar draws siroedd arfordirol De-ddwyrain Lloegr yw'r Twyni Deheuol[1] (Saesneg: South Downs). Mae'r Twyni yn ymestyn o Ddyffryn Itchen yn Hampshire yn y gorllewin i Bentir Beachy yn Nwyrain Sussex yn y dwyrain. O'r sgarp serth ar yr ochr ogleddol mae golygfeydd helaeth ar draws y Weald. Butser Hill yw pwynt uchaf y Twyni, gyda chopa 270 metr (890 troedfedd) uwchben lefel y môr. Nodweddir y dirwedd gan dwyndir tonnog, dyffrynnoedd sych, a tiroedd helaeth o laswellt byr.
Mae'r Twyni Gogleddol yn gadwyn arall o fryniau sialc sy'n rhedeg yn gyfochrog â'r Twyni Deheuol, tua 30 milltir (48 km) i'r gogledd, ar ymyl ogleddol y Weald.
Oriel
-
Tirwedd nodweddiadol y Twyni Deheuol: ger Arundel, Gorllewin Sussex
-
Y sgarp serth ar ochr ogleddol y Twyni:
Firle Beacon, Dwyrain Sussex -
Dyffryn sych yn y Twyni: Devil's Dyke ("Clawdd y Diafol"), i'r gogledd o Brighton
-
Mae'r Twyni'n cyrraedd y môr yn eu pen dwyreiniol: Y Seven Sisters ("Y Saith Chwaer"), Dwyrain Sussex
Cyfeiriadau
- ↑ Geiriadur yr Academi, down1 n > the South Downs.