Uman
Math | dinas bwysig i'r rhanbarth yn Wcráin |
---|---|
Poblogaeth | 82,154 |
Sefydlwyd | |
Cylchfa amser | UTC+2, UTC+03:00 |
Gefeilldref/i | Łańcut, Davis, Gniezno, Haapsalu City, Aberdaugleddau, Romilly-sur-Seine, Haapsalu |
Daearyddiaeth | |
Sir | Cherkasy Oblast, Sir Uman, Yekaterinoslav Viceroyalty, Uman Raion, Umanska miska rada |
Gwlad | Wcráin |
Arwynebedd | 41 km² |
Uwch y môr | 166 ±1 metr |
Gerllaw | Umanka (river) |
Cyfesurynnau | 48.75°N 30.22°E |
Cod post | 20300–23019 |
Dinas yn rhanbarth Cherkasy, yng nghanolbarth Wcráin, ac i'r dwyrain o Vinnytsia yw Uman (Умань; neu yn Iddew-Almaeneg: Imen' efo n palateiddiol). Saif ar lannau'r afon Umanka, ac mae'n gwasanaethu fel prifddinas ardal Umanskyi ac fel dinas ar wahân. Ei phoblogaeth yn 2004 oedd 88,730.
Hanes
Sonir am Uman ers 1616 fel caer rhag y Tatariaid pan sefydlodd milwyr Cosac yn y dref. Yn 1670 tan 1674, roedd Uman yn bencadlys Hetman a oedd yn gadfridog Cosac.
Ym 1768 cafwyd Cyflafan Uman wedi i rebeliaid Cosac (Haydamak) dan Maksym Zalizniak a Ivan Gonta gipio'r dref oddi wrth y Pwyliaid. Daeth Uman yn rhan o Ymerodraeth Rwsia ym 1793 ac adeiladwyd tai crand yno. Parc mawr yw prif nodwedd Uman y Sofiyivka (Софiївка) crewyd yn 1796 gan Count Stanisław Szczęsny Potocki, uchelwr Pwylaid, ac enwyd y lle ar ôl ei wraig Sofia. Mae rhaeadrau a phonydd ym Mharc Sofia wedi ysgogi dyfyniad enwog gan Rabbi Nachman o Breslov (y dyn a sefydlodd y sect Hasidim): "mae'r byd i gyd fel pont gul, ond does dim byd i'w ofni." Daeth y dyfyniad yn enwog i Iddewon y byd.
Cymuned Iddewig
Ffynnodd cymuned fawr o Iddewon yn y dref yn y 18ed a'r 19goedd. Dinistrwyd y gymuned wedi 1941, ar ôl Brwydr Uman pryd oedd y dref dan warchae y Wehrmacht. Erys yn ganolfan pererindod o bwys i Iddewon.
Bedd y Rebbe
Yn Uman mae bedd Rabbi Nachman o Breslov, y Rebbe o'r sect Breslov o Iddewon Hasidaidd. Bu farw Rabbi Nachman yn Uman, a dewisodd gael ei gladdu yno. Yn ystod Rosh Hashanah (Blwyddyn Newydd yr Iddewon) mae pererindod gan Hasidim Breslov ag eraill i'w fedd; bu cynnydd sylweddol yn ddiweddar ac mae hyd at 30,000 chassidim yn dod o bob man yn y byd (dynion gan amlaf). Dechreuwyd y pererindod i 1811, blwyddyn ei gladdu yn Uman. Dywedodd y Rebbe y dylai ei ddilynwyr dod i'w weld ar Rosh Hashana bob blwyddyn.
Gwaharddwyd yr arfer tan 1989 dan y Sofietaid.[1] Ganwyd y Cadfridog Sofiet Ivan Chernyakhovsky, y bardd Yideg Ezra Fininberg a'r awdur Yideg Hershl Polyanker yn Uman.
Gweler hefyd
- Parc Sofiyivsky - tirlun ger y ddinas
Gefeilldrefi
Gefellwyd Uman gyda:
- Gniezno yng Ngwlad Pwyl
- Łańcut yng Ngwlad Pwyl [2]
- Davis yng Nghaliffornia, UDA
- Aberdaugleddau yng Nghymru
Cyfeiriadau
- (Wcreineg) (1972) Історіа міст i сіл Укpaїнcькoї CCP - Черкаськa область (History of Towns and Villages of the Ukrainian SSR - Cherkasy Oblast), Kyiv.
- (Saesneg) Uman yn Encyclopedia of Ukraine
- ↑ Gweler erthygl "A New Phase in Jewish-Ukrainian Relations" gan Mitsuharo Akao; bibliographical details at http://www.informaworld.com/smpp/content~content=a780715503~db=all
- ↑ Łańcut Official Website - Foreign contacts.
Dolennni allanol
- (Saesneg) All about Uman Archifwyd 2007-10-26 yn y Peiriant Wayback.