Umoja
Math | anheddiad dynol |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Rift Valley Province |
Gwlad | Cenia |
Cyfesurynnau | 0.63°N 37.63°E |
Pentref yng Nghenia yw Umoja Uaso. Fe’i sefydlwyd fel pentref i ferched yn unig yn 1990, gan Rebecca Lolosoli, gwraig o lwyth y Sambwrw, fel lloches i ferched sydd wedi goroesi trais neu sy’n dianc o briodasau dan orfod.
Hanes
Yn draddodiadol mae statws merched yn israddol yng nghymdeithas y Sambwrw. Nid oes hawl ganddynt i fod yn berchen ar dir nac eiddo; yn wir, gwelir merched fel eiddo eu gwŷr. Gall merched ddiodde anffurfio eu horganau cenhedlu, priodas dan orfod gyda’r henuriaid, treisio a thrais yn y cartref. Ddechrau’r nawdegau, cafwyd adroddiadau am dros 600 o ferched Cenia wedi’u treisio gan filwyr Prydain. Cafodd y merched hyn eu gadael gan eu gwŷr oedd o’r farn eu bod wedi eu “difwyno”, ac roedd pryderon hefyd am heintiau a drosglwyddir yn rhywiol.
Ar ôl i lawer o ferched gael eu hunain heb gartref, penderfynwyd creu Umoja. Rebecca Lolosoli gafodd y syniad o greu pentref ar gyfer merched pan oedd yn dadebru ar ôl cael ei churo am siarad allan am statws merched. Yn y pen draw, daeth pymtheg o ferched at ei gilydd i sefydlu’r pentref gwreiddiol yn 1990. Mae merched Umoja yn ymwrthod â'r safle israddol sydd gan ferched yn draddodiadol yng nghymdeithas y Sambwrw.
Y Pentref
Mae'r pentref yng nghanol gogledd Cenia, yn nhalaith Sambwrw, tua 240 milltir o Nairobi, prifddinas Cenia.
Poblogaeth
Nid yw dynion yn cael byw yn Umoja, ond maent yn gallu ymweld. Dim ond dynion sydd wedi’u magu yn Umoja fel plant sy’n cael cysgu yn y pentref. Yn 2005 roedd 30 o ferched a 50 o blant yn byw yn Umoja; erbyn 2015, roedd 47 o ferched a 200 o blant.
Addysg
Yn draddodiadol, mae plant y Sambwrw yn gweithio fel bugeiliaid gyda’r anifeiliaid, ond yn Umoja mae pawb yn cael mynd i’r ysgol. Mae ysgol gynradd gyda lle i 50 o blant yn y pentref, ac yn fwy diweddar agorwyd ysgol feithrin. Mae’r pentrefwyr hefyd yn mynd i bentrefi eraill i hybu hawliau merched ac i ymgyrchu yn erbyn enwaedu merched.
Economi
Mae’r merched yn gwerthu crefftau traddodiadol i ymwelwyr er mwyn gwneud arian. Mae pawb yn cyfrannu deg y cant o’u henillion i’r pentref i gefnogi'r ysgol a gwasanaethau cyffredinol eraill.
Llywodraethu
Mae merched y pentref yn ymgynnull o dan goeden benodol er mwyn gwneud penderfyniadau o bwys. Rebecca Lolosoli yw cadeirydd y pentref, ac mae gan bob merch statws cyfartal.