Undeb y Maghreb Arabaidd
Enghraifft o: | sefydliad rhanbarthol, political economic union, supranational union, cydffederasiwn ![]() |
---|---|
Rhan o | Maghreb Economic Area ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 1989 ![]() |
Sylfaenydd | Moroco, Tiwnisia, Libia, Mawritania, Algeria ![]() |
Enw brodorol | اتحاد المغرب العربي ![]() |
Rhanbarth | Al-Magreb al-Aqsa, Al-Maghrib al-Awsat, Al-Maghreb al-Adna ![]() |
Gwefan | https://maghrebarabe.org/ ![]() |
![]() |

Sefydlwyd Undeb y Maghreb Arabaidd (Arabeg: اتحاد المغرب العربي Ittihad al-Maghrib al-Araby, Ffrangeg: Union du Maghreb arabe) yn 1989 fel cytundeb masnach pan-Arabaidd gyda'r nod o hyrwyddo undeb economaidd a gwleidyddol yn y Maghreb Mawr yng ngogledd-orllewin Affrica. Cyfeirir at yr undeb fel UMA fel rheol.
Ceir pum aelod-wladwriaeth, sef Algeria, Libia, Mauritania, Moroco, a Tiwnisia. Lleolir y pencadlys yn Rabat, prifddinas Moroco.
Y problemau gwleidyddol rhanbarthol mwyaf sy'n wynebu'r Undeb yw'r sefyllfa yn nhiriogaeth dadleuol Gorllewin Sahara, a reolir gan Moroco ond a hawlir gan fudiadau dros annibyniaeth, a'r tensiynau rhwng Moroco ac Algeria sydd wedi arwain at gau'r ffin rhwng y ddwy wlad a llesteirio datblygiad cysylltiadau cludiant rhanbarthol trwy Algeria.
Yn 2023, mae'r prosiect arian sengl yn yr ardal yn parhau i fod yn dechnegol ymarferol ond yn wleidyddol anfeidrol.[1].
Aelodau

Algeria (1989)
Libia (1989)
- Mauritania (1989)
Moroco (1989)
Tiwnisia (1989)
Yn 16fed sesiwn gweinidogion tramor UMA, a gynhaliwyd ar 12 Tachwedd 1994 yn Algiers, gwnaeth yr Aifft gais ffurfiol i ddod yn aelod.
Gweler hefyd
Dolenni allanol
- (Ffrangeg) (Saesneg) Gwefan swyddogol