Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur
Math | Sefydliad Rhyngwladol |
---|---|
Sefydlwyd | Hydref 1948, Fontainebleau, Ffrainc |
Pencadlys |
|
Prif bobl | Julia Marton-Lefèvre (Uwch Gyfarwyddwr) Zhang Xinsheng (Llywydd) |
Y lle a wasanaethir | Y byd cyfan |
Ffocws | Cadwraeth, bioamrywiaeth, Atebion naturiol |
Datganiad o genhadaeth | Dylanwadu, hybu, annog a chynorthwyo cymdeithasau byd-eang i warchod integriti ac amrywiaeth natur a sicrhau fod y defnydd o unrhyw adnoddau naturiol ecolegol gydbwyso ac yn gynaliadwy. |
Nifer a gyflogir | Dros 1,000 (yn fyd-eang) |
Gwefan | IUCN |
Mae'r Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur (Ffrangeg: Union internationale pour la conservation de la nature [UICN]; Saesneg: International Union for Conservation of Nature (IUCN)) yn sefydliad byd-eang sydd a'i fryd ar "ddarganfod atebion mwyaf pragmatig i broblemau cyfnewidiol yr amgylchedd".[1] Dyma'r corff sy'n cyhoeddi Rhestr Goch yr IUCN o greaduriaid sydd dan fygythiad, sef rhestr sy'n asesiad cyfoes o statws gadwriaethol creduriaid ledled y byd.[2]
Mae'r IUCN yn cefnogi ymchwil ac yn rheoli prosiectau maes drwy'r byd, ac yn ddull o uno mudiadau di-lywodraeth (fel yr awgryma'r enw "Undeb") ac asiantaethau'r Cenhedloedd Unedig, cwmniau a chymunedau lleol gan gydlynu'u holl weithgareddau a chreu polisiau. Dyma rwydwaith amgylcheddol hyna'r byd ac mae ganddo aelodaeth ddemocrataidd o dros 1,000 o sefydliadau a thros 11,000 o wyddonwyr gwirfoddol mewn dros 160 o wledydd. Mae ganddyn nhw dros 1,000 o staff proffesiynol a channoedd o bartneriaid ym mhob sector ar hyd a lled y byd. Mae pencadlys yr undeb yn Gland, Swistir.[1]
Gweledigaeth IUCN yw byd cyfiawn sy'n "rhoi gwerth ar natur ac yn ei warchod".[3]
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
- ↑ 1.0 1.1 "International Union for Conservation of Nature". iucn.org. IUCN. Cyrchwyd 20 Mai 2010.
- ↑ "Planet Of No Apes? Experts Warn It's Close". cbsnews.com. CBS News Online. 12 Medi 2007. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-07-10. Cyrchwyd 22 Mawrth 2008. Italic or bold markup not allowed in:
|publisher=
(help) - ↑ "About IUCN". iucn.org. IUCN. Cyrchwyd 28 Awst 2011.