Urdd y Deml
| |
---|---|
Baner y Temlwyr mewn brwydrau | |
Gweithredol | t. 1119 – t. 22 March 1312 |
Teyrngarwch | y Pab |
Math | Urdd filwrol Gatholig Rufeinig |
Rôl | Amddiffyn pererinion Cristnogol yn Jerwsalem (ardal) Milwyr ymosod |
Maint | 15,000–20,000 aelod ar ei hanterth, gyda 10% ohonynt yn farchogion[1][2] |
Pencadlys | Bryn y Deml, Jerwsalem, Teyrnas Jerwsalem |
Llysenw(au) |
|
Noddwr | Sant Bernard o Clairvaux |
Arwyddair/Arwyddeiriau |
|
Dillad | Mantell wen gyda chroes Demlwyr goch |
Masgod(au) | Dau farchog yn marchogaeth ar un ceffyl |
Cyrchau milwrol | Y Croesgadau, gan gynnwys:
|
Cadlywyddion | |
Yr Uchel Feistr cyntaf | Hugues de Payens |
Yr Uchel Feistr olaf | Jacques de Molay |
Urdd filwrol Gatholig Ffrengig oedd Cyd-Filwyr Tlawd Crist a Theml Solomon (Lladin: Pauperes commilitones Christi Templique Solomonici), hefyd a elwir yn y Temlwyr a Marchogion y Deml (Ffrangeg: Ordre du Temple). Hi oedd un o'r urddau milwrol cyfoethocaf yng Nghristnogaeth y Gorllewin. Sefydlwyd yr urdd t. 1119 er mwyn amddiffyn pererinion ar hyd y daith i Jerwsalem, gyda'i phencadlys ar Fryn y Deml. Bodolodd yr urdd am fron i ddwy ganrif yn ystod yr Oesoedd Canol.
Sefydlwyd yr Urdd yn dilyn y Groesgad Gyntaf yn 1096, gyda'r bwriad o sicrhau diogelwch y pererinion o Ewrop oedd yn teithio i Jerwsalem wedi i'r Cristnogion feddiannu'r ddinas yn ystod y Groesgad. Cydnabuwyd yr Urdd yn swyddogol gan yr Eglwys Gatholig tua 1129, a chynyddodd ei haelodaeth a'i grym yn gyflym. Bu gan farchogion yr Urdd ran amlwg yn y Croesgadau. Heblaw'r marchogion, roedd nifer fawr o aelodau eraill.
Wedi i'r Cristnogion golli Jerwsalem, dechreuodd cefnogaeth i'r Urdd edwino. Manteisiodd Ffylip IV, brenin Ffrainc, oedd mewn dyled i'r Urdd, ar hyn, a phwysodd ar y Pab, Pab Clement V, i weithredu yn eu herbyn. Yn 1307, cymerwyd llawer o aelodau'r Urdd yn Ffrainc i'r ddalfa. Arteithiwyd llawer ohonynt nes iddynt arwyddo cyffesion, a dienyddiwyd nifer trwy eu llosgi. Yn 1312, cyhoeddodd y Pab fod yr Urdd yn cael ei dirwyn i ben.
Cyfeiriadau
- ↑ Burman 1990, t. 45.
- ↑ Barber 1992, tt. 314–26
By Molay's time the Grand Master was presiding over at least 970 houses, including commanderies and castles in the east and west, serviced by a membership which is unlikely to have been less than 7,000, excluding employees and dependents, who must have been seven or eight times that number.
Cedwir eu henw yn enw pentref Tredeml yn Sir Benfro.