Wenceslao Selga Padilla

Wenceslao Selga Padilla
GanwydWenceslao Selga Padilla Edit this on Wikidata
29 Medi 1949 Edit this on Wikidata
Tubao Edit this on Wikidata
Bu farw25 Medi 2018 Edit this on Wikidata
Ulan Bator Edit this on Wikidata
Man preswylUlan Bator Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Philipinau Edit this on Wikidata
Galwedigaethoffeiriad Catholig, esgob Catholig Edit this on Wikidata
Swyddesgob er anrhydedd Edit this on Wikidata

Esgob ac offeiriad o'r Philipinau oedd y Gwir Barchedig Wenceslao Selga Padilla (29 Medi 194925 Medi 2018) a wasanaethodd yn Taiwan a Mongolia.

Bywgraffiad

Ganwyd ef yn Tubao yn ardal La Union, y Philipinau, yn 1949, i deulu o Babyddion ac ordeiniwyd ef yn offeiriad yn 1976 ac roedd yn genhadwr yn Taiwan am gyfnod o chwe blynedd.

Yn 1991 fe'i danfonwyd fel cenhadwr i Ulan Bator, Mongolia, ble y bu'n cynorthwyo plant tlawd, yr hen a'r digartref ar y strydoedd.[1] Pan sefydlodd y pab Ioan Pawl II y Rhaglawiaeth Apostolaidd (Lladin: Praefectura Apostolica) Ulan Bator ar 8 Gorffennaf 2002, y Tad Padilla oedd ei rhaglaw cyntaf. Fe'i hordeiniwyd yn esgob ar 2 Awst 2003.[2][3][4]

Bu farw Padilla o drawiad calon ar 25 Medi 2018 yn Ulan Bator ac olynwyd ef gan y Tad Giorgio Marengo ar 2 Ebrill 2020.[5]

Cyfeiriadau

Dolenni allanol